Dau yn pledio'n ddieuog i losgi gyda'r bwriad o beryglu bywyd

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi wedi'r tân yn oriau man 28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn wedi pledio'n ddieuog i achos o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd yn dilyn tân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf.
Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi wedi'r tân ar Stryd Protheroe, Glynrhedynog yn oriau man 28 Gorffennaf, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Fe wnaeth Lewis Manito, 32 o Weston-super-Mare yn ne orllewin Lloegr, bledio'n ddieuog i losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd, llosgi di-hid heb ystyried y perygl i fywyd a gwyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gael gwared ar gar.
Plediodd Connor Pitt, 23, ac sydd hefyd yn dod o Weston-super-Mare, yn ddieuog i losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Mae dau ddyn arall - Auryn Guster, 19, ac Alfie Wheeler, 18 - eisoes wedi cyfaddef achos o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae Mr Wheeler hefyd wedi ei gyhuddo o fod â machete, math o gyllell fawr, yn ei feddiant a bydd y ddau yn cael eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Mae pumed diffynnydd, Storm Truman, 19, hefyd wedi ei chyhuddo o losgi bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd ac mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 25 Medi.
Mae disgwyl i'r achos yn erbyn Mr Manito a Mr Pitt ddechrau ym mis Ionawr.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Awst