Datrys dirgelwch cwestiwn ar dywod

  • Cyhoeddwyd
Nia a Ben gyda llun Mark TreanorFfynhonnell y llun, Nia Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymrodd hi dair awr i'r artist tywod Marc Treanor gwblhau'r darlun ar draeth y gogledd

Mae pâr ifanc o Donysguboriau yn Rhondda Cynon Taf yn dathlu dyweddïo dros y penwythnos mewn modd anghyffredin - a chyhoeddus.

Cafodd llun tywod ar un o draethau Dinbych y Pysgod ei rannu'n helaeth ar wefannau cymdeithasol ddydd Sadwrn, a dyfalu mawr pwy a oedd wedi gofyn i 'Nia' am ei llaw mewn priodas.

Bellach mae hi wedi dod i'r amlwg mai Ben Griffiths oedd wedi trefnu'r gwaith celf i'w gariad, Nia Roderick - a'i bod hi wedi dweud 'ie'!

Cafodd y llun, a oedd yn debyg i arfbais y cymeriad llenyddol Harry Potter, ei greu gan yr artist celf tywod, Marc Treanor.

Cymaint o sypreis

"Roedd yn gymaint o sypreis," meddai Nia, sydd o Ben-y-bont ar Ogwr yn wreiddiol, "achos dydyn ni ddim yn bobl sy'n gwneud pethau rhamantus fel yma."

"Dydyn ni hyd yn oed ddim yn prynu anrhegion pen-blwydd na Nadolig i'n gilydd, achos rydyn ni wedi nabod ein gilydd ers 12 mlynedd".

Dywedodd Nia ei bod hi a Ben yn Sir Benfro gyda'u teuluoedd ar y pryd, ac wedi penderfynu mynd am dro gyda'u cŵn i Ddinbych y Pysgod.

"Roedden ni wedi mynd i dafarn i gael diod," meddai, "pan yn sydyn iawn dywedodd Ben nad oedd yn teimlo'n dda iawn, a'i fod angen mynd allan i gael awyr iach.

Ffynhonnell y llun, Nia Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ben a Nia gyfarfod tra'n gweithio i Bwerdy Aberddawan ym Mro Morgannwg

Ffynhonnell y llun, Nia Roderick

"Fe gerddon ni draw tuag at draeth y gogledd, ac yn fanno mi wnes i sylwi ar ddarlun gan yr artist tywod Marc Traenor" meddai Nia, "ac mi wnes i gyffroi, oherwydd dwi'n hoff iawn o'i waith e, ac roedd y llun cynnwys elfennau o'r llyfrau Harry Potter."

"O'n i'n sefyll yna'n edrych ar y dyn yn gwneud ei waith a nes i ddweud wrth Ben, 'Edrych! Mae 'na ddwy lythyren yn y darlun, sef B ac N', ac ar hynny na'th Ben daro fy ysgwydd a gofyn i mi droi rownd.

"Roedd e lawr ar un ben-glin, a dyna pryd nes i sylweddoli ei fod e wedi trefnu hyn i gyd".

"Ac wrth gwrs, fe ddwedais i 'ie'!".

Cafodd y ddau ddathliad bach gyda'u teulu nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Nia Roderick
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia ei bod hi'n hoff iawn o waith Marc Treanor, yma ar y chwith, a'u bod yn falch ei fod wedi eu helpu gyda'r achlysur

"Roedd Ben wedi gofyn i Dad o flaen llaw os geith e fy mhriodi i, ond doedd e ddim yn gwybod am bopeth oedd wedi cael ei gynllunio", meddai Nia, a oedd yn 30 oed fis Ionawr.

"Pan ddaeth y teulu i gyd i'r traeth tua chwarter awr wedyn fe ddechreuon nhw chwerthin, ac ro'n nhw'n hapus iawn hefyd."

Fe arhosodd y pâr a'u perthnasau yn Ninbych y Pysgod nes i'r llanw ddod i mewn a golchi'r llun i ffwrdd.

Does dim penderfyniad eto ar ddyddiad ar gyfer eu priodas.