Caerdydd: Cytundeb Sala heb ei glymu'n gyfreithiol

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Emiliano Sala oedd y chwaraewr drytaf yn hanes yr Adar Gleision

Bydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud wrth gorff llywodraethu FIFA nad oedd y cytundeb i arwyddo Emiliano Sala o Nantes wedi'i glymu'n gyfreithiol.

Dyw Caerdydd ddim yn fodlon rhoi £15m i Nantes am yr ymosodwr o'r Ariannin, fu farw ar 21 Ionawr yn 28 oed.

Aeth awyren Piper Malibu ar goll wrth deithio o Nantes i Gaerdydd, gyda Sala a'r peilot David Ibbotson - sydd dal ar goll - arni.

Yn ôl Caerdydd doedd Sala heb ei gofrestru fel chwaraewr yn Uwch Gynghrair Lloegr ar adeg ei farwolaeth.

Mae Nantes yn dweud fod yr holl waith papur o'u hochr nhw wedi'i gyflawni mewn pryd.

Mae FIFA am i Gaerdydd roi tystiolaeth erbyn 3 Ebrill.

Cytundeb yn ddiwerth?

Yn ôl ffynhonnell o Glwb Pêl-droed Caerdydd, roedd yn rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Ligue de Football Professionnel Ffrainc gadarnhau cofrestru'r chwaraewr i'r ddau glwb erbyn 22 Ionawr.

Roedd yn rhaid i Uwch Gynghrair Lloegr glirio'r mater hefyd.

Mae'r clwb o brifddinas Cymru'n mynnu bod manylion y cytundeb yn dweud os nad oedd pob agwedd o'r trefniant wedi'i gadarnhau, byddai'r cytundeb yn ddiwerth.

Maen nhw'n dweud nad oedd Ligue de Football Professionnel wedi cysylltu â'r ddau glwb mewn pryd, ac nad oedd CBDC wedi cadarnhau gyda Nantes.

Mae adran chwaraeon y BBC hefyd wedi dysgu fod Uwch Gynghrair Lloegr wedi gwrthod y cytundeb am fod agwedd o'r cytundeb yn mynd yn erbyn rheolau'r gynghrair.

Dywedodd llefarydd ar ran Nantes eu bod wedi ufuddhau i reolau FIFA.