Fifa yn ymchwilio i Gaerdydd am beidio â thalu am Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano SalaFfynhonnell y llun, AFP/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Emiliano Sala mewn damwain awyren ym Môr Udd ar 21 Ionawr

Mae corff llywodraethu'r byd pêl-droed yn ymchwilio wedi i Nantes wneud cwyn yn erbyn Caerdydd am beidio â thalu am Emiliano Sala.

Bu farw Sala, 28 oed o'r Ariannin, mewn damwain awyren ym Môr Udd ar 21 Ionawr.

Roedd yr amser sydd gan Gaerdydd i dalu taliad cyntaf y ffi o £15m amdano eisoes wedi cael ei ymestyn at ddydd Mercher.

Yn y cyfamser mae'r dyn sy'n arwain yr ymgyrch i geisio canfod y peilot David Ibbotson wedi cadarnhau nad oedd ei gorff yng ngweddillion yr awyren gafodd ei ganfod ar wely'r môr.

Disgwyl am 'eglurder'

Dywedodd Fifa ddydd Mercher: "Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn gan FC Nantes yn erbyn Caerdydd mewn cysylltiad ag Emiliano Sala.

"Ry'n ni'n ymchwilio i'r mater ac felly ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd."

Fe wnaeth Nantes yrru llythyr at Uwch Gynghrair Lloegr ar 5 Chwefror yn hawlio'r cyntaf o dri thaliad o fewn 10 diwrnod, cyn i hynny gael ei ymestyn at 27 Chwefror

Ond dywedodd Adar Gleision eu bod am ohirio'r taliad nes bod "eglurder" ar fanylion y digwyddiad a bod yr ymchwiliad i'r ddamwain wedi'i gwblhau.

Awyren SalaFfynhonnell y llun, AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Doedd dim arwydd o David Ibbotson yng ngweddillion yr awyren

Y swm a dalwyd am Sala yw'r ffi uchaf erioed i Glwb Pêl-droed Caerdydd dalu am chwaraewr.

Clwb arall o Ffrainc, Bourdeaux fydd yn derbyn hanner y ffi wedi iddyn nhw gytuno hynny â Nantes pan symudodd Sala o un clwb i'r llall yn 2015.

Cafodd corff Sala ei ganfod yng ngweddillion yr awyren ar 8 Chwefror ac fe gafodd ei gladdu yn yr Ariannin wythnos yn ddiweddarach.

Ond mae'r peilot Mr Ibbotson yn parhau ar goll.

Dywedodd David Mearns, sy'n arwain y gwaith o chwilio amdano, bod timau wedi bod yn chwilio'r awyren yn fanwl ddydd Mercher ond nad oedd unrhyw arwydd o Mr Ibbotson.