Pêl-droediwr yn gwadu gyrru at bobl ifanc am ei wawdio

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pel-droed CornellyFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig ar 19 Ebrill y llynedd

Mae pêl-droediwr wedi gwadu gyrru'i gar yn fwriadol at 11 o gefnogwyr ifanc gwrthwynebwyr ei dîm ar ôl iddyn nhw ei wawdio a'i alw'n "fatty".

Mae'r erlyniad yn Llys y Goron Casnewydd yn honni bod Lee Taylor, 36, wedi ei defnyddio ei gar BMW fel "arf" wrth yrru at griw o fechgyn - rhai mor ifanc â 14 oed - ar ôl i'w dîm golli gêm o 5-0 yng Nghorneli, Pen-y-bont ar Ogwr fis Ebrill diwethaf.

Mae Mr Taylor - sydd o ardal Sandfields, Port Talbot - yn honni ei fod yn ceisio osgoi'r llanciau pan neidiodd i'w gar, a'i fod heb eu clywed yn sgrechian wedi iddo eu taro am fod stereo'r car yn chwarae cerddoriaeth yn uchel.

Dywedodd ei fod wedi ceisio atal gwrthdaro rhwng un cyd-chwaraewr ifanc gyda Chlwb Pêl-droed Margam ac o leiaf 15 o gefnogwyr Cornelly United tu allan i'r ystafell newid pan wnaeth y llanciau droi arno fe.

"Dywedais i: 'drychwch, bechgyn, os ydyn ni am ymladd, gadewch i ni ymladd un-i-un'," meddai Mr Taylor wrth y llys. "Roedd yr awyrgylch yn ddwys. Dywedodd un o'r bechgyn wrtha'i: 'Nawn ni dy ddyrnu.... fatty'."

'Wedi teimlo ofn'

Mae'n honni bod rhai o'r bechgyn wedi ei ddilyn i'w gar, a bod un wedi neidio ar y BMW a phwnio'r ffenestr flaen wrthi iddo geisio gadael y maes parcio.

Dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn ofni bod y bechgyn am achosi niwed iddo ond ei fod "methu cofio beth ddigwyddodd wedi hynny".

Mae'r llys eisoes wedi clywed bod Taylor wedi refio injan y car eiliadau cyn gyrru yn uniongyrchol at y bechgyn a'u taro fel "sgitls mewn canolfan fowlio".

Ffynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod yr ymosodiad honedig wedi digwydd o llaen 'llond maes parcio o dystion'

Dywedodd Christopher Rees ar ran yr erlyniad bod rhai o'r bechgyn wedi eu taflu i'r awyr, ac un wedi llwyddo i aros ar flaen y car a phwnio'r ffenestr flaen, gan ychwanegu mai dim ond trwy "lwc pur" y cafodd neb fwy na mân anafiadau.

Gofynnodd wrth y diffynnydd: "Ydych chi'n dweud nad oedd gyda chi syniad eich bod wedi taro 11 o'r bechgyn ifanc yma... pan wnaethoch chi gyrraedd adref?"

Atebodd Mr Taylor: "Nid tan i'r heddlu fy arestio."

'Sarhad i'ch ego'

Pan ofynwyd pam na ffoniodd yr heddlu wedi'r digwyddiad os roedd yn credu bod y llanciau wedi ymosod arno, dywedodd: "Fyddwn i ddim yn ffonio tra'n gyrru."

Dywedodd Mr Rees: "Eto i gyd, does dim ots ganddoch chi anelu at grŵp o lanciau? Fe wnaethoch chi eu taro o flaen llond cae pêl-droed a maes parcio llawn tystion.

"Dywedodd dyn oedd yn mynd â'i gi am dro iddo weld ardal o gyflafan."

Awgrymodd wrth Mr Taylor bod hyfrdra'r bechgyn wrth ei herio yn sarhad i'w "ego... a'ch synnwyr o gymaint o ddyn ydych chi" ac mai dyna wnaeth achosi iddo ymateb fel ag y gwnaeth.

Mae'r llys eisoes wedi gweld lluniau ffôn symudol sy'n honni i ddangos y diffynnydd yn taflu dyrnau at y llanciau cyn mynd yn ôl i'r car a gyrru o'r safle.

Mae Mr Taylor yn gwadu gyrru'n beryglus, 11 o gyhuddiadau o geisio achosi niwed corfforol difrifol bwriadol, ac 11 cyhuddiad amgen o ymosod gan achosi niwed corfforol.

Mae'r achos yn parhau.