Cyngor i 'wneud y lleiafswm' i wella llygredd aer
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerffili wedi cymeradwyo argymhelliad i "wneud cyn lleied ag sy'n rhaid" er mwyn gwella ansawdd aer stryd mwyaf llygredig Cymru.
Mae lefelau nitrogen deuocsid - NO2 - ar yr A472 ym Mryn Hafodyrynys yng Nghrymlyn yn uwch na chanllawiau'r World Health Organisation (WHO) a rheolau'r Undeb Ewropeaidd.
Roedd adroddiad i gabinet y cyngor yn dweud bod prynu a dymchwel rhai tai, gan symud pobol o'r ardal dan sylw, yn un opsiwn, ond y byddai ceir newydd yn lleihau llygredd "heb ymyrraeth".
Ond mae'r cyngor wedi cadarnhau bod ebost gan Lywodraeth Cymru i'r awdudod fore Mercher yn dweud bod gwneud dim yn "annerbyniol", ac y dylid gweithredu i sicrhau lefelau NO2 cyfreithiol gynted â phosib.
Bydd cabinet y cyngor nawr yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus am 10 wythnos cyn cyflwyno cynllun terfynol i Lywodraeth Cymru erbyn 30 Mehefin.
'Lefelau llygredd peryglus'
Cyn y cyfarfod fe ddywedodd Awyr Iach Cymru (AIC) fod pobl yr ardal wedi "diodde' lefelau peryglus o lygredd aer am lawer rhy hir".
Mae canllawiau'r WHO yn gosod uchafswm o 40 meicrogram o'r nwy ymhob medr ciwbig o aer, gan ddweud bod lefelau uwch na hynny'n gysylltiedig â symptomau o drafferthion anadlu i blant ac yn niweidiol i'r ysgyfaint.
Mae ystadegau Llywodraeth y DU yn dangos bod lefelau Hafodyrynys yn 70 µg/m³ ar gyfartaledd. Mae hynny'n uwch nag unrhyw le arall trwy'r DU - ag eithrio Llundain.
Dywedodd Joseph Carter o Awyr Iach Cymru: "Mae llygredd aer wedi cael ei brofi i achosi canser yr ysgyfaint, gwaethygu'r galon a heintiau'r ysgyfaint, ac mae'n effeithio ar y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
"Mae trigolion Hafodyrynys wedi diodde' lefelau peryglus o lygredd aer am llawer rhy hir. Rhaid i Gyngor Caerffili drafod gyda'r trigolion a'r gymuned leol i lanhau'r aer yn yr ardal yma."
Er hynny roedd yr adroddiad i'r cyngor yn awgrymu'r dewis o "wneud cyn lleied ag sy'n rhaid" ar y sail y byddai targedau'n cael eu cwrdd erbyn 2025 wrth i geir newydd fod yn lanach.
Byddai'r ail ddewis - dymchwel rhai tai ar hyd y ffordd wedi gorchmynion gorfodol i'w prynu - wedi sicrhau cydymffurfio â lefelau aer glân erbyn 2023.
'Mater sensitif iawn'
Yn ôl arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Dave Poole mae "iechyd a lles y gymuned o'r pwys mwyaf" ond eu bod hefyd angen osgoi achosi trafferthion ariannol i drigolion o ganlyniad y broses pryniant gorfodol.
"Does gan rai o drigolion oedrannus y stryd ddim morgais ac yn anffodus ni allwn ni dalu mwy na gwerth y farchnad, felly fydden nhw'n wynebu trafferthion ariannol sylweddol petasen nhw angen prynu cartref newydd," meddai
"Mae angen i ni roi buddiannau'r gymuned yn gyntaf a dyba'r rheswm inni gytuno ar yr opsiwn 'gwneud cyn lleied ag sydd angen' oherwydd dyna sydd orau i'r trigolion."
Dywedodd aelod arall o'r cabinet, y Cynghorydd Eluned Stenner bod y mater yn un "sensitif iawn" a'u bod yn dymuno cydymffurfio â'r canllawiau llygredd gynted â phosib.
"Bydden ni nawr yn lobïo Llywodraeth Cymru am ragor o gyllid i sicrhau nad yw'r trigolion dan sylw yn cael eu gwthtio i galedi ariannol petasen ni'n gorfod gosod gorchmynion prynu gorfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi e-bostio Cyngor Caerffili yn dilyn cyngor cyfreithiol bod eu hopsiwn 'gwneud y lleiafswm' ddim yn cyrraedd y gofynion cyfreithiol gafodd eu gosod gan yr Uchel Lys.
"Bydd y gweinidog yn ysgrifennu at yr arweinydd a'r prif weithredwr yn eu hatgoffa o'r gofynion cyfreithiol, ac na all cost fod yn ystyriaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2017
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017