Cei Connah a'r Seintiau Newydd yn ffeinal Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, Cymdeithas Pêl-droed Cymru

Y Seintiau Newydd a Chei Connah fydd yn cwrdd yn ffeinal Cwpan Cymru wedi iddyn nhw ennill eu gemau yn y rownd gynderfynol dros y penwythnos.

Fe wnaeth Y Seintiau Newydd drechu'r Barri o 2-0 yn y gêm gyntaf nos Sadwrn, gyda goliau gan Greg Draper a Jamie Mullan.

Roedd y deiliaid Cei Connah yn fuddugol o 3-0 yn erbyn Met Caerdydd brynhawn Sul, gyda Callum Morris, Michael Bakare a John Disney yn sgorio.

Roedd y ddwy gêm yn cael eu cynnal ym Mharc Latham yn y Drenewydd.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar 5 Mai, ond dyw'r lleoliad ddim wedi'i gadarnhau hyd yn hyn.