Digwyddiad Llanelli: Cyhuddo dyn o fygwth gydag arf
- Cyhoeddwyd

Cafodd heddlu arfog eu galw i ardal Heol Marine ddydd Mawrth
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cyhuddo dyn yn sgil digwyddiad yn Llanelli ddydd Mawrth.
Mae Robert Samuel, 27 oed o Gross Hands, wedi ei gyhuddo o fygwth person gydag arf bygythiol, o affräe, o wneud bygythiadau i ladd ac o fod â chyffur Dosbarth B yn ei feddiant.
Cafodd heddlu arfog eu galw i'r digwyddiad yn ardal Heol Marine yn ystod oriau mân bore Mawrth, a bu'r ardal ar gau am rai oriau yn ddiweddarach.
Mae Mr Samuel wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2019