Diffyg arbenigwyr endometriosis Cymru yn 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llinos Blackwell sy'n egluro sut brofiad yw byd gyda chyflwr endometriosis

Mae'r diffyg arbenigedd ar gyfer cyflwr mor gyffredin â endometriosis yn annerbyniol, yn ôl menyw sy'n byw gyda'r cyflwr.

Daw'r neges wrth i orymdaith arbennig gael ei chynnal yn Llandudno ddydd Sadwrn i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Mae endometriosis yn gyflwr sy'n effeithio ar tua un o bob 10 menyw yn fyd-eang. Mae'n gallu achosi poen difrifol, anffrwythlondeb, blinder cronig yn ogystal â symptomau gwanychol eraill.

Dywedodd Llinos Blackwell, sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad, bod y diffyg ymwybyddiaeth ac arbenigedd ym maes endometriosis "yn gwbl annerbyniol".

Ffynhonnell y llun, Endomarch Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr orymdaith ar hyd promenâd Llandudno yn dechrau am 14:00

Dyma'r pedwerydd tro i ddigwyddiad o'r fath gael ei gynnal yng Nghymru, a'r chweched digwyddiad rhyngwladol.

Mae'r gorymdeithiau blaenorol wedi bod yng Nghaerdydd ac Abertawe, ond eleni bydd yr orymdaith yn Llandudno - y cyntaf yng ngogledd Cymru - yn digwydd law yn llaw â'r rhai yn y de.

'Tri arbenigwr yng Nghymru'

Yn ôl Ms Blackwell, 41, dim ond tri arbenigwr endometriosis sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae pob un yng Nghaerdydd.

"I feddwl bod y cyflwr yr un mor gyffredin â diabetes neu asthma mae cael cyn lleied â thri arbenigwr yn y wlad yn gwbl annerbyniol," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi cymryd tair blynedd o'r tro cyntaf iddi fynd at feddyg teulu cyn derbyn diagnosis llawn.

"Es i ddim at y doctor nes 'mod i'n 28 oherwydd roeddwn i'n meddwl fod fy mhoenau yn 'normal' ac na ddyliwn i wneud ffys," meddai.

"Mae meddygon teulu yn gwneud eu gorau ond yn syml dydy'r arbenigedd ddim yno.

"Allwch chi ddychmygu os mai dim ond tri arbenigwr asthma oedd yn y wlad?"

Ffynhonnell y llun, Samantha Hickson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Samantha Hickson bod "cymaint o wybodaeth anghywir allan 'na"

Ychwanegodd trefnydd y digwyddiad yn Llandudno, Samantha Hickson ei bod hithau wedi ei chael yn anodd cael diagnosis a thriniaeth hefyd.

"Mae 'na gymaint o wybodaeth anghywir allan 'na," meddai.

"Yn anffodus, mae nifer o weithwyr iechyd proffesiynol sydd ddim â'r wybodaeth gywir 'chwaith."

Dywedodd ei bod yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn "codi ymwybyddiaeth a dangos cefnogaeth i'r merched yng Nghymru sydd yn yr un sefyllfa".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.