Yr haul: Canfyddiad 'chwyldroadol' gwyddonwyr Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Dr Huw Morgan a Dr David Kuridze o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul, Prifysgol AberystwythFfynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Dr Huw Morgan a Dr David Kuridze o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul, Prifysgol Aberystwyth

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi canfod bod maes magnetig yr haul 10 gwaith yn gryfach na'r hyn a gredwyd o'r blaen.

Cafodd y canfyddiad ei wneud ar ôl i ymchwilwyr o'r adran Ffiseg astudio data o fflachiad solar enfawr yn 2017.

Mae'n cael ei ystyried yn ddatblygiad pwysig tuag at fedru darogan pryd fydd ffrwydradau yn digwydd ar wyneb yr haul, sydd yn gallu tarfu ar systemau cyfathrebu ar y Ddaear.

Dywedodd Dr Huw Morgan, o Grŵp Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth, mai mater o lwc oedd hi bod yr ymchwilwyr wedi gweld y fflêr enfawr ym mis Medi 2017.

'Chwyldroadol'

"Digwydd bod lwc llwyr oedd pwyntio'r telesgop i'r lle iawn ar yr amser iawn a'r awyr yma ar y ddaear yn glir a gweld y fflêr yma'n digwydd," meddai.

"Felly mae'n arsylwad hollol unigryw a'r peth arbennig i ni yw, nid yn unig gweld y fflêr yma, ond bod y fflêr digon llachar i'n galluogi ni i wneud mesuriad hynod o sensitif nad oedd modd ei wneud erioed o'r blaen.

"Trwy'r mesuriad sensitif iawn yma 'da ni'n llwyddo i fesur y maes magnetig sydd yn sawl gwaith yn gryfach nag oedd pobl yn meddwl o'r blaen.

"Ac mae'r maes magnetig mor bwysig i ddeall sut mae'r haul yn bihafio - mae hyn yn eitha' chwyldroadol yn y maes."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Aberystwyth
Disgrifiad o’r llun,

Fflachiad ar 10 Medi 2017 - uchder y dolenni yw tua 25,000km, dwywaith diameter y Ddaear

Mae fflachiadau'r haul yn ymddangos fel fflachiadau llachar ac yn digwydd pan fydd ynni magnetig sydd wedi casglu yn yr atmosffer yn cael ei ryddhau'n sydyn.

Tan nawr, ni fu modd mesur maes magnetig yr haul yn llwyddiannus oherwydd diffyg signal a chyfyngiadau'r offer sydd ar gael.

Dros gyfnod o 10 diwrnod ym mis Medi 2017, defnyddiodd Dr David Kuridze - o'r adran Ffiseg - y telesgop i astudio ardal ansefydlog ar arwyneb yr haul.

Dim ond ar 1% o'r arwyneb y mae'r telesgop yn medru canolbwyntio ar unrhyw adeg.

Gyda lwc, roedd Dr Kuridze yn canolbwyntio ar y man iawn ar yr amser iawn pan ffrwydrodd y fflach yr haul.