Parc Biwt Caerdydd yn dathlu 70 mlynedd ers agor

  • Cyhoeddwyd
Parc Biwt yn yr 1960auFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Parc Biwt yn yr 1960au

Bydd diwrnod o ddigwyddiadau'n cael ei gynnal ym Mharc Biwt yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn i nodi 70 mlynedd ers iddo gael ei agor i'r cyhoedd.

Bydd Planhigfeydd Parc Biwt, sydd y tu ôl i wal frics dal, ar agor i'r cyhoedd hefyd.

Yn ogystal, bydd cerflun newydd yn cael ei ddadorchuddio.

Bydd cyfle i holi garddwyr ac fe fydd gwenynwr y parc yn trafod dod â chychod gwenyn yn ôl i'r ardal.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Ardal Blackfriars y parc yn yr 1970au

Bydd ymwelwyr hefyd yn clywed am Andrew Pettigrew - prif arddwr trydydd Marcwis Biwt rhwng 1873 ac 1903 - oedd yn gyfrifol am ailfodelu Castell Caerdydd.

Does dim cynlluniau o'i waith, ond ef oedd yn gyfrifol am greu lawntiau drud a phlannu coed a llwyni i wella edrychiad y castell.

Mae 1.7 milltir y parc yn cynnwys mwy na 2,500 o goed bellach.

Ffynhonnell y llun, Geograph/David Dixon
Disgrifiad o’r llun,

Mae Planhigfeydd Parc Biwt yn cuddio tu ôl i wal frics dal yng nghanol y parc

"Fyddai Caerdydd ddim yn Gaerdydd heb Barc Biwt," meddai'r Cynghorydd Peter Bradbury.

"Dyma yw calon werdd y ddinas ers 70 mlynedd bellach, ac mae'n haeddu dathliad.

"Mae gan dîm Parc Biwt brofiad helaeth, a dyma gyfle grêt i ddysgu ganddyn nhw, darganfod mwy am y parc a'r gwaith gwych sy'n mynd 'mlaen tu ôl i'r llenni."