Heddlu yn cau strydoedd yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
![llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F4D3/production/_106257626_mediaitem106257625.jpg)
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddaid gerbron Llys Ynadon y dref
Fe wnaeth yr heddlu gau un o'r prif heolydd yng nghanol Llanelli brynhawn Llun yn dilyn digwyddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad yn ymwneud â dyn wnaeth fynd allan o gerbyd yr heddlu.
Fe aed â ef i'r ysbyty ond credir nad yw ei anafiadau yn rhai sy'n peryglu ei fywyd.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r digwyddiad am tua 12:20 ac yn apelio am dystion.
Cafodd Heol yr Eglwys ei chau a hefyd nifer o strydoedd cyfagos.
![Llanelli](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/14307/production/_106259628_mediaitem106257627.jpg)
Cafodd strydoedd yng nghanol y dref eu cau ar ol tua 12:20 ddydd Llun
![Heddlu](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A6B3/production/_106257624_mediaitem106257623.jpg)
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad