Cwest i ystyried rôl awdurdodau cyn marwolaeth dyn, 32
- Cyhoeddwyd
Bydd cwest dyn o Fae Colwyn oedd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yn ystyried yn ofalus ei berthynas gyda'r awdurdodau, gan gynnwys yr heddlu, dros gyfnod o flynyddoedd.
Clywodd y cwest yn Rhuthun fod James Lockett, 32, wedi bod yn derbyn triniaeth am broblemau iechyd meddwl am dros ddegawd.
Fe wnaeth yr heddlu ei ddarganfod yn farw yn ei fflat ar 6 Rhagfyr 2016.
Y gred yw iddo farw o orddos o feddyginiaethau presgripsiwn.
Roedd yr heddlu wedi mynd i gartref Mr Lockett er mwyn ei arestio - un mewn cyfres o gysylltiadau yr oedd wedi eu cael gyda'r awdurdodau y flwyddyn honno.
Pythefnos cyn ei ddarganfod yn farw, roedd plismyn wedi defnyddio gwn taser cyn ei arestio.
Dywedodd Dirprwy Grwner Gogledd Cymru, Joanne Lees, y byddai'n edrych ar ba drefniadau oedd mewn lle a pha asesiadau gafodd eu gwneud o gofio hanes iechyd Mr Lockett.
'Person cyfeillgar a charedig'
Clywodd y cwest fod teulu Mr Lockett wedi symud o Sir Gaerhirfryn i ogledd Cymru.
Aeth Mr Lockett i Ysgol Gynradd Beddgelert ac yna Ysgol Uwchradd Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.
Dechreuodd ddioddef salwch meddwl tua 2004.
Erbyn 2010 roedd wedi symud i fyw i Fae Colwyn ac yn aelod gweithgar o Eglwys y Bedyddwyr.
Cafodd ei asesu fel sgitsoffrenig ac roedd yn cymryd y cyffur clozapine.
Rhywbryd yn 2015 fe roddodd y gorau i'w berthynas gyda'i rieni, ond parhaodd mewn cysylltiad â'i chwaer, Valentia.
Mewn datganiad i'r cwest dywedodd hi: "Byddai unrhyw un oedd yn ei adnabod yn ei ystyried yn berson cyfeillgar a charedig."
'Amhosib cadarnhau'r achos'
Dywedodd patholegydd wrth y gwrandawiad nad oedd yn bosib dweud â sicrwydd beth wnaeth achosi'r farwolaeth, yn niffyg tystiolaeth o drawma corfforol.
Yn ôl Dr Mark Atkinson, roedd y corff wedi pydru'n sylweddol yn y deuddydd wedi i rywun weld Mr Lockett yn fyw ddiwethaf.
Fe allai hynny fod wedi digwydd am fod yr ystafell lle y cafwyd hyd i'w gorff yn gynnes, yn rhannol oherwydd y tanciau pysgod yno.
Clywodd y llys bod nifer fawr o becynnau tabledi yn y gegin ond bod nifer y tabledi oedd wedi eu cymryd at sgitsoffrenia yn gyson â chyfarwyddiadau ei bresgripsiwn.
Dywedodd Dr Atkinson bod amgylchiadau'r farwolaeth yn awgrymu gor-ddos "ond ni alla'i brofi hynny".
Mae'r cwest yn parhau.