'Tata i werthu un o'i safleoedd yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd

Cafodd uniad gyda Tata a Thyssenkrupp ei gytuno ym mis Mehefin y llynedd
Mae BBC Cymru yn deall y gallai Tata werthu un o'i safleoedd yng Nghymru er mwyn bwrw 'mlaen â chynllun i uno gyda chwmni o'r Almaen.
Mae'r cynllun i werthu gwaith Trostre yn Llanelli yn rhan o ymchwiliad gan yr Undeb Ewropeaidd i'r fenter i uno â Thyssenkrupp.
Y gobaith yw y bydd miloedd o swyddi yn cael eu diogelu yn y diwydiant yng Nghymru yn sgil yr uniad.
Mae safle Tata yn Nhrostre yn cyflogi 650 o bobl, ac yn gyfrifol am gynhyrchu deunydd pecynnau, fel tuniau ac ati.
Does yna ddim awgrym y bydd y cynllun i uno gyda Thyssenkrupp yn dod i ben ar hyn o bryd.
Ond mae ymchwiliad gan yr Undeb Ewropeaidd wedi codi pryderon y byddai gan y cwmni newydd ormod o ddylanwad ar y farchnad ar ôl uno.
Gwerthu Trostre ydy un opsiwn i ddatrys hynny.

Mae gwaith dur Trostre yn cyflogi 650 o bobl
Mae Aelod Cynulliad Llanelli, Lee Waters ynghyd ag undebau dur yn dweud eu bod yn poeni am y cyhoeddiad.
Dywedodd Mr Waters: "Mae'n ddiflas fod hyn wedi digwydd eto. Rydyn ni fel petaem yn rhan o gêm wyddbwyll ryngwladol.
"Mae Trostre yn gwsmer mawr i Bort Talbot - maent i gyd yn bwydo oddi ar ei gilydd - Shotton, Port Talbot a Throstre.
"Maent i gyd wedi'u cysylltu - felly mae symud un darn yn cael effaith ar y gweddill," ychwanegodd.
'Poeni'n fawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Community, undeb y gweithwyr dur: "Os yw'r adroddiadau yma yn gywir mae'r cynnig yma yn ein poeni'n fawr.
"Os yw'r asedau yn cael eu gwerthu, mi fydd y fenter ar y cyd yn brosiect gwahanol ac fe fydd yn rhaid i ni asesu pa effaith mae'r datblygiadau hyn yn eu cael ar gwmni Tata yn Ewrop a busnesau yn y DU."
Mae'r BBC wedi gofyn i Tata am ymateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2018