Sala: Caerdydd yn awyddus i gyfarfod â Nantes
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn bwriadu siarad yn uniongyrchol â chlwb Nantes mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod ynghylch y ffi o £15m am yr ymosodwr Emiliano Sala.
Bu farw'r Archentwr 28 oed pan gwympodd yr awyren oedd yn ei gario o Nantes i Gaerdydd i'r môr ar 21 Ionawr.
Fe wrthododd Caerdydd roi'r taliad cyntaf am y ffi drosglwyddo i Nantes.
Mae corff llywodraethu FIFA wedi rhoi tan 15 Ebrill i'r ddau glwb setlo'r anghydfod.
Estyniad gan FIFA
Roedd FIFA wedi rhoi tan ddydd Mercher i'r clybiau roi tystiolaeth.
Ond mae Caerdydd yn dweud nad yw Nantes wedi ymateb i gais y clwb i gyfarfod.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Mae Dinas Caerdydd wedi gofyn ac wedi cael estyniad i'r dyddiad cau i ymateb i FIFA ar y mater hwn.
"Yn ddiweddar, ysgrifennodd Caerdydd at FC Nantes yn cynnig cyfarfod i drafod materion yn ymwneud â thrychineb Emiliano Sala a'r trosglwyddiad arfaethedig, yn unol â chais FIFA i'n dau glwb ddod i benderfyniad yn uniongyrchol.
"Hyd yn hyn, nid yw Caerdydd wedi derbyn ymateb gan Nantes."
Yn ôl Caerdydd doedd Sala heb ei gofrestru fel chwaraewr yn Uwch Gynghrair Lloegr adeg ei farwolaeth.
Mae Nantes yn dweud fod yr holl waith papur o'u hochr nhw wedi'i gyflawni mewn pryd.
Bu farw Sala ar fwrdd yr awyren oedd yn cael ei hedfan gan David Ibbotson. Mae'r peilot yn parhau ar goll.
Mae BBC Cymru yn deall fod Mr Ibbotson yn lliwddall, sy'n atal peilotiaid rhag hedfan wedi iddi dywyllu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2019