Peilot Emiliano Sala 'ddim yn gymwys i hedfan gyda'r nos'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala and David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Emiliano Sala ei ganfod yn yr awyren, ond mae corff David Ibbotson yn parhau ar goll

Doedd peilot yr awyren fu mewn damwain ym Môr Udd, gan ladd y pêl-droediwr Emiliano Sala, ddim yn gymwys i hedfan gyda'r nos.

Mae BBC Cymru yn deall fod David Ibbotson yn lliwddall, sy'n atal peilotiaid rhag hedfan wedi iddi dywyllu.

Bu farw'r Archentwr 28 oed pan fu'r awyren Piper Malibu oedd yn ei gario o Nantes i Gaerdydd mewn damwain ar 21 Ionawr.

Dywedodd yr Awdurdod Awyrennau Sifil (CAA) na fyddai'n gwneud sylw nes i ymchwiliad y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) ddod i ben.

Yn ôl yr AAIB, mae trwyddedau yn "parhau i fod yn ffocws" yn ei ymchwiliad.

Awr ar ôl machlud

Mae ffynonellau wedi cadarnhau i BBC Cymru bod Mr Ibbotson, o Crowle yng Ngogledd Sir Lincoln, ddim â'r hawl i hedfan gyda'r nos ar ei drwydded.

Dywedodd un o'r ffynonellau hynny: "Mae bod yn lliwddall yn atal peilot rhag cael trwydded i hedfan gyda'r nos, am fod gallu dweud y gwahaniaeth rhwng goleuadau gwyrdd a choch yn allweddol i hedfan yn y tywyllwch."

Mae rheolau Ewropeaidd yn diffinio gyda'r nos fel "hanner awr ar ôl machlud, hyd at hanner awr cyn gwawrio".

AwyrenFfynhonnell y llun, AAIB/PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gweddillion yr awyren eu canfod ar wely Môr Udd

Mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth sy'n dangos bod yr awyren oedd yn cario Sala wedi bwriadu gadael Nantes am 09:00 ar 21 Ionawr.

Ond, yn dilyn cais gan y chwaraewr, cafodd hynny ei ohirio nes 19:00 i roi amser iddo ffarwelio â'i gyn-glwb.

Erbyn i'r awyren ddechrau ar ei thaith am 19:00, byddai'r haul wedi machlud ers dros awr.

Fe wnaeth yr awyren ddiflannu i'r gogledd o ynys Guernsey am 20:16.

Cafodd corff Sala ei dynnu o weddillion yr awyren, ond mae corff Mr Ibbotson yn parhau ar goll.

Mae disgwyl i'r AAIB gyhoeddi ei adroddiad llawn i'r digwyddiad yn gynnar yn 2020.