Teithwyr: Ond hanner yn symud o ysgol gynradd i uwchradd

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae mwy o bobl ifanc o gymunedau sipsiwn, Roma a theithwyr yn mynd i'r ysgol, ond dim ond hanner ohonyn nhw sy'n symud o'r ysgol gynradd i addysg uwchradd.

Yn ôl adroddiad gan yr arolygaeth ysgolion Estyn, mae angen gwella'r profiad addysg i'r disgyblion yma.

Ers 2011 mae cynnydd o 35% yn nifer y plant sipsiwn, Roma a theithwyr mewn ysgolion uwchradd, a 41% mewn ysgolion cynradd.

Ond mae eu perfformiad addysgiadol yn parhau'n is nag unrhyw grŵp arall, er bod canlyniadau TGAU wedi gwella.

Yn ôl yr adroddiad mae yna bryder penodol am y bwlio a'r gwahaniaethu sy'n cael eu profi gan blant o'r cefndiroedd yma, yn ogystal â'r gwaharddiadau o'r ysgol a chyrhaeddiad is o'i gymharu â grwpiau eraill.

Yn 2018 roedd 699 o ddisgyblion sipsiwn, Roma a theithwyr mewn ysgolion cynradd, ond dim ond 303 mewn ysgolion uwchradd.

Ymhlith y rhesymau pam nad oes mwy o blant yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd mae:

  • Pryder rhieni y bydd eu plant yn cael eu bwlio yn yr ysgol uwchradd;

  • Pryder y bydd eu diwylliant yn cael ei wanhau;

  • Canfyddiad mai ychydig iawn sydd yng nghwricwlwm yr ysgol i baratoi eu plant ar gyfer gwaith neu ar gyfer cadw cartref.

Ar draws Cymru, dywedodd Estyn nad oedd y trefniadau ar gyfer trosglwyddo disgyblion i ysgolion uwchradd wedi gwella digon ers yr adroddiad diwethaf wyth mlynedd yn ôl.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw diwylliant y cymunedau yn cael ei hyrwyddo'n ddigon da yn yr ysgol, a bod nifer o ddisgyblion yn dweud bod yna fwlio yn eu herbyn a bod galw enwau'n gyffredin.

Serch hynny dywedodd y disgyblion bod ysgolion fel arfer yn mynd i'r afael â'r achosion yma mewn modd sensitif ac addas.

Dysgwyr 'mwyaf agored i niwed'

Dywedodd y Prif Arolygydd Meilyr Rowlands mai dyma'r dysgwyr sydd "fwyaf agored i niwed".

"Mae angen iddyn nhw gael y cymorth cywir yn yr ysgol i'w helpu i wneud y mwyaf o'u doniau, eu diddordebau a'u galluoedd," meddai.

"Dim ond hanner y disgyblion o'r cymunedau hyn sy'n parhau i addysg uwchradd.

"Er bod canlyniadau TGAU wedi gwella, disgyblion o gymunedau sipsiwn, Roma a theithwyr yw'r rhai sy'n cyflawni isaf o hyd o blith yr holl grwpiau ethnig."