Ateb y Galw: Llew Glyn o'r band Gwilym
- Cyhoeddwyd

Llew (ar y dde) a gweddill Gwilym yn dathlu eu llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau'r Selar eleni
Llew Glyn, un chwarter y band Gwilym, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Alffa yr wythnos diwethaf.
Ym mis Chwefror, enillodd y band - sydd wedi bod yn chwarae gyda'i gilydd am lai na blwyddyn - bum gwobr yn Ngwobrau'r Selar 2019, gan gynnwys y gwobrau am y band gorau a'r gân orau am eu sengl Catalunya.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ymweld â fy chwaer fach yn yr ysbyty am y tro cyntaf.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Cheryl Cole.

Falle mai Cheryl Cole oedd ei henw hi pan oedd Llew yn iau, ond Cheryl ydi hi bellach - ar ôl dau ysgariad, mae hi wedi penderfynu fod cael cyfenw yn ormod o drafferth
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
S'nam byd yn sefyll allan yn syth, ond dwi'n casáu gwneud camgymeriada' mewn gigs!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Llynedd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ngwinadd a deud jôcs gwael.

O archif Ateb y Galw:

Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Felinheli - pentra gorau'r byd!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Hmmm, 'di cael sawl noson anhygoel - ma' Dawns Ryng-Gol Aberystwyth 2018 bendant yn un uchafbwynt!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Licio chwerthin gormod!
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Nesh i fwynhau darllen Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis, un o'r llyfrau wnaeth fy ysbrydoli i ddilyn gradd mewn gwleidyddiaeth.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Ken ac Arthur Rownd a Rownd - ma' nhw i weld fatha bois doniol.

Wel mae Arthur yn sicr yn edrych yn ddoniol...
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Mi fyddwn ni nôl yn y stiwdio dros y Pasg i recordio cân newydd!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Yfad crât o Carling ar lannau'r Fenai.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Ma'n newid bob w'snos - ond ar y funud, Mae'r Dyddiau Gwell i Ddod gan Papur Wal - tiwwwwn a hannar!
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Poppadoms, cyri jalfeezi cyw iâr, a cornetto i orffan!
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Liam Gallagher.

Elan Evans oedd un o gyflwynwyr y noson pan enillod Gwilym eu pentwr o wobrau gan gylchgrawn Y Selar
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Elan Evans