Cleifion canser y coluddyn Cymru i gael profion geneteg

  • Cyhoeddwyd
Prawf canser
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd, dim ond cleifion risg uchel sy'n cael cynnig prawf Syndrom Lynch

Fe fydd pob claf yng Nghymru sy'n cael diagnosis o ganser y coluddyn yn cael prawf o fis Mehefin ymlaen am y cyflwr geneteg Syndrom Lynch.

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i ymroddi i gynnal profion o'r fath yn achos cyflwr sy'n cynyddu'r risg o gael canser y coluddyn hyd at 80%, ynghyd â mathau eraill o ganser.

Trwy ganfod bod claf â Syndrom Lynch mae'n bosib cynnig profion i berthnasau hefyd a lleihau'r siawns iddyn nhw farw o ganser y coluddyn.

Mae'r elusen Bowel Cancer UK, sydd wedi ymgyrchu dros y newid ers rhai blynyddoedd, wedi croesawu'r cyhoeddiad gan GIG Cymru, Rhwydwaith Canser Cymru a Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru.

Y llynedd fe wnaeth gwaith ymchwil yr elusen ddatgelu mai dim ond cleifion risg uchel yng Nghymru oedd yn cael cynnig prawf Syndrom Lynch - yn groes i ganllawiau NICE, y corff sy'n gyfrifol am awdurdodi cyffuriau meddygol.

Mae yna amcangyfrif bod dros 175,000 o bobl yn y DU yn dioddef o'r syndrom, ac mai dim ond 5% o'r rheiny sy'n gwybod eu bod yn byw gyda'r cyflwr.

Mae gan berthnasau cleifion sydd â'r syndrom siawns 50/50 o fod â'r cyflwr hefyd.

Mae pobl â Syndrom Lynch hefyd yn fwy tebygol o gael canser y coluddyn yn iau - 45 oed ar gyfartaledd erbyn iddyn nhw gael diagnosis - ac o'i gael fwy nag unwaith.

Trwy wybod bod y cyflwr yn y teulu mae modd trefnu i sgrinio unigolion yn rheolaidd.

Mae 2,200 o bobl yng Nghymru yn cael gwybod bob blwyddyn bod canser y coluddyn arnyn nhw.

Ffynhonnell y llun, SPL

Dywed Bowel Cancer UK eu bod yn falch fod byrddau iechyd Cymru bellach wedi neilltuo "arian sylweddol" i gynnig profion Syndrom Lynch i bob claf canser y coluddyn a'u perthnasau.

Dywedodd pennaeth yr elusen yng Nghymru, Lowri Griffiths: "Mae ymroddiad pendant GIG Cymru heddiw yn gam pwysig ymlaen o ran arbed mwy o fywydau o ganser y coluddyn.

"Rydym wedi bod yn galw am welliannau i nabod y grŵp arbennig yma o gleifion risg uchel am lawer o flynyddoedd.

"Mae gan brofion Syndrom Lynch ran hanfodol o ran darganfod canser y coluddyn yn gynnar, pan mae'n haws i'w drin a'r siawns o oroesi yn uchel."

Dywedodd yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Canser Cymru: "Rwy'n falch iawn bod Cymru, gyda chymorth yr holl fyrddau iechyd, yn gallu arwain y ffordd trwy ymroddi i'r prawf sgrinio geneteg yma."