Hyd at 50% yn anwybyddu prawf syml am ganser y coluddyn
- Cyhoeddwyd
Dim ond hanner y bobl sy'n gymwys i gael eu sgrinio am fath angheuol o ganser sy'n mynd am brawf, yn ôl ffigyrau newydd.
Canser y coluddyn yw'r pedwerydd mwyaf cyffredin yn y DU, a'r ail fwyaf angheuol yng Nghymru gyda 900 o'r 2,200 sy'n cael diagnosis ohono yn marw'n flynyddol.
Mae pawb sydd rhwng 60-74 oed ac sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn derbyn prawf drwy'r post bob dwy flynedd.
Er bod modd trin y clefyd, mae hyd at 50% yn ei anwybyddu mewn rhai ardaloedd.
Diagnosis cynnar
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Steffan Lewis, gafodd ddiagnosis o ganser cyfnod pedwar ym mis Tachwedd y llynedd, fod gan bobl "siawns uchel" o oroesi drwy wneud y prawf.
"Roeddwn i'n 32 oed, ac rwy'n gwybod mor bwysig yw'r prawf gan fod y math yna o ganser yn gallu cael ei drin os yw'n cael ei ddal yn gynnar," meddai.
"Os yw'n cael ei ganfod yng nghyfnod un neu ddau, mae yna lawdriniaeth eitha' syml. Yn anffodus i mi, daeth y symptomau ddim i'r amlwg tan ei fod yng nghyfnod pedwar."
Bob blwyddyn mae tua 280,000 o bobl yn derbyn prawf drwy'r post gan Sgrinio Coluddion Cymru, ond mae ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos bod y nifer sy'n cwblhau'r prawf yn disgyn mewn sawl ardal.
Dim ond mewn tair sir - Torfaen, Wrecsam a Chonwy - y gwelwyd cynnydd yn y nifer sy'n cwblhau'r prawf.
Mae pennaeth Canser y Coluddyn UK Cymru, Lowri Griffiths yn annog pobl i beidio anwybyddu'r prawf.
"Mae'n eitha' syml," meddai. "Mae sgrinio coluddion yn achub bywydau.
"Byddwn yn annog pawb sydd dros 60 oed i gwblhau'r prawf, ac i bobl iau i annog eu hanwyliaid sydd dros 60 i'w wneud e."
Mae'r prawf yn rhybuddio am arwyddion cynnar o'r clefyd gan gynnwys gwaed yn yr wrin, newid amlwg ac annisgwyl mewn arferion tŷ bach a phoen neu lwmp yn y stumog.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn apelio ar fwy o bobl i wneud y prawf ac mae Sgrinio Coluddion Cymru'n bwriadu cyflwyno prawf newydd yn 2019 a'i ehangu i bobl dros 50 oed.
Roedd hynny'n gwneud synnwyr i Steffan Lewis.
"Gobeithio bydd mwy yn manteisio ar y cyfle," meddai. "Mae'r mwyafrif sy'n cael diagnosis yng nghyfnod un neu dau yn goroesi am o leia' pum mlynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017