Gwasanaeth Tân y Gogledd eisiau recriwtio mwy o ferched

  • Cyhoeddwyd
Gwasanaeth Tân
Disgrifiad o’r llun,

10% o ddiffoddwyr tân gogledd Cymru sy'n ferched

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch recriwtio i geisio cynyddu nifer y merched sy'n rhan o'r llu.

24 o ddiffoddwyr tân llawn amser sy'n ferched ar hyn o bryd yn y gogledd - 10% o'r 250 o ddiffoddwyr sy'n rhan o'r gwasanaeth.

Dywedodd Shân Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol y Gwasanaeth, bod recriwtio merched wedi bod yn her ar draws y wlad.

Ychwanegodd bod y rôl wedi newid dros y blynyddoedd i fod yn fwy amrywiol, ac na ddylai apelio at ddynion yn unig.

Yn eu rownd recriwtio ddiwethaf, yn 2015, dim ond 12% o'r ymgeiswyr oedd yn ferched.

Ond mae'r gwasanaeth yn gobeithio gweld mwy o ferched yn dangos diddordeb mewn ymuno â'r tîm yn ystod diwrnod blasu fydd yn cael ei gynnal dros y penwythnos.

Dywedodd y gwasanaeth ar eu gwefan eu bod eisiau "gwneud yn siŵr bod merched yn gwneud dewis gwybodus ynghylch gyrfa posib fel diffoddwr tân" a sicrhau bod llai o ferched yn osgoi gyrfa o'r fath oherwydd "camsyniadau, hen stereoteipiau neu fythau".

Disgrifiad o’r llun,

Emma Edwards yw'r unig ferch sy'n gweithio'n llawn amser yng ngorsaf Bae Colwyn

Un sydd yn brentis gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Y Gogledd ar hyn o bryd yw Emma Edwards o Gaernarfon, sy'n gobeithio gweld mwy o ferched yn chwalu'r stereopteip traddodiadol.

"Lle dwi'n gweithio ym Mae Colwyn, fi ydy'r unig ferch ar y watch," meddai.

"Mae 'na ferch arall yn rhan-amser hefyd, felly mae 'na dipyn ohonom ni o gwmpas, ond dim digon.

"Dydy bod yr unig ferch ddim yn teimlo'n wahanol. 'Da ni i gyd yn gwneud yr un gwaith, ac mae pawb hefo cryfderau gwahanol.

"Mae rhai yn cael sioc pan dwi'n dweud wrthyn nhw be dwi'n ei wneud fel gwaith, ond mae o'n neis hefyd achos mae lot o bobl yn dweud ei bod hi'n neis gweld merch yn ei wneud o."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Shân Morris bod recriwtio merched wedi bod yn her ar draws y wlad

Ychwanegodd Ms Morris: "Blynyddoedd maith yn ôl roedd 'na swyddi oedd yn addas i ddynion a swyddi oedd yn addas i ferched.

"Mae'r gymdeithas yn llawer mwy goleuedig erbyn hyn a 'da ni'n cydnabod bod timau cymysg yn llawer iawn mwy cyfoethog.

"Mae recriwtio merched wedi bod yn her ers sawl blwyddyn - nid yng ngogledd Cymru yn unig, ond ar draws y wlad.

"Dim ond tua 5% o'n gweithlu gweithredol ni sydd yn ferched, a dydy hynny ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr y dyddiau yma."

"Mae rôl diffoddwr neu ddiffoddwraig dân wedi newid dros y blynyddoedd i fod yn un llawer iawn mwy amrywiol, ac felly 'da ni yn gofyn i bobl beidio bod yn swil a rhoi eu henwau ymlaen."