'Gallai cost uwch y dreth gyngor achosi tlodi'
- Cyhoeddwyd
Fe allai cost uwch biliau'r dreth gyngor ar draws Cymru orfodi rhai teuluoedd sy'n gweithio i fyw mewn tlodi, yn ôl Sefydliad Bevan sy'n ymchwilio i anghydraddoldeb a dulliau o leihau tlodi.
Dywedodd y Sefydliad bod cynnydd yng nghyfraddau tlodi yn gymysgedd o "gostau byw cynyddol, incwm isel a thoriadau i'r system lles".
Y mis hwn bydd pobl yn dechrau talu eu biliau treth y cyngor uwch am y tro cyntaf.
Fe gododd y dreth yng Nghymru 6.5% ar gyfartaledd ond mae sawl cyngor wedi cymeradwyo cynnydd o dros 9%.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cynghorau wedi derbyn y "setliad gorau posib."
'Beth yw'r pwynt?'
Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 720,000 o bobl yn byw mewn tlodi yng Nghymru - mae dros eu hanner nhw yn deuluoedd lle mae o leiaf un oedolyn yn gweithio, yn ôl Sefydliad Bevan.
Mae tlodi yn cael ei ddiffinio gan Lywodraeth y DG fel incwm sy'n is na 60% o'r cyflog cyfartalog.
Mae Jackie Owen yn rheoli busnes New Home Furnishings yn Y Drenewydd a dywed bod talu biliau eisoes yn anodd er bod hi a'i gŵr yn gweithio'n llawn amser.
Dywedodd: "Mae'n sefyllfa arwswydus - mae Powys yn gorfod talu 9.5% yn fwy ac erbyn talu am y cyngor tre, gwasanaeth heddlu ac yn y blaen bydd y cynnydd yn nes at 12% ac fe fydd teuluoedd normal yn cyrraedd pen eu tennyn.
"Yn anffodus dyw cyflogau ddim yn codi ar yr un raddfa - mae bywyd cymdeithasol wedi diflannu, i ddweud y gwir mae e wedi diflannu ers cryn amser.
"Dyw'r busnes ddim yn talu cyflog i fi ar hyn o bryd, felly ni'n byw ar gyflog y gŵr ac ry'n ni wedi cwtogi ar bopeth ni'n gallu hyd yn hyn. Mae dros hanner cyflog y gŵr yn mynd bob mis ar dalu rhent a thalu treth y cyngor. Ni'n teimlo'r straen yn ofnadwy - ni'n gweithio'n galed ac rwy'n meddwl yn aml 'I beth, beth yw'r pwynt'?"
Dywedodd Cyngor Powys nad oedd ganddynt ddewis ond cyflwyno y cynnydd mwyaf yn y dreth erioed. Yn ôl y Cyngor, 9.5% oedd y cynnydd isaf er mwyn caniatáu pasio cyllideb gytbwys.
'Effaith fawr ar deuluoedd'
Ond mae'r Cynghorydd Huw Williams, sy'n cynrychioli ward Ystradgynlais yn poeni am effaith y cynnydd.
Dywedodd: "Mae teuluoedd sydd â morgais yn gallu cael eu gwthio i bethau fel y banc bwyd, achos mae'r incwm yn mynd bob mis a does dim digon ganddyn nhw.
"Mae fe'n effeithio ar bobl sydd â'r incwm lleiaf, a dyw e ddim yn deg ond hefyd mae rhai pobl sydd mewn gwaith hefyd yn teimlo effaith y cynnydd yma."
Dywedodd Sefydliad Bevan bod tlodi mewn gwaith yn broblem fawr yng Nghymru, wedi'i achosi gan gostau byw uchel a chyflogau cymharol isel.
Dywedodd y Dr Steffan Evans mai 24% yw'r gyfradd tlodi yng Nghymru, o'i chymharu â 22% ar draws y Deyrnas Gyfunol.
Pan gyhoeddwyd ystadegau tlodi llywodraeth San Steffan yn ddiweddar, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Amber Rudd bod 400,000 yn llai o bobl yn wynebu tlodi eithafol.
Ond yn ôl Adele Evans, gweithiwr cymunedol yn Ystradgynlais mae angen mwy o help ar deuluoedd.
Dywedodd: "Fi'n gweld mwy o deuluoedd sy'n gweithio sy'n dod mewn i ofyn am y banc bwyd, neu i ofyn am help. O'r blaen roedd pawb yn meddwl os oedd swydd gyda chi chi'n gallu cael beth y'ch chi moyn. Ond nawr mae'n fwy caled i bobl - os y'ch chi mewn gwaith neu mas o waith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019