Theatr Clwyd yn ennill gwobr Olivier
- Cyhoeddwyd

Bydd y sioe yn dod i ben yn y West End ddydd Sadwrn yma.
Mae Theatr Clwyd wedi ennill gwobr Olivier am ei chynhyrchiad 'Home, I'm Darling', sy'n cynnwys rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru.
Mewn gwobrau yn Llundain nos Sul fe enillodd y cynhyrchiad wobr am y comedi orau newydd, ac fe gafodd ei henwebu mewn pedwar categori arall hefyd.
Cafodd y sioe ei chyd-gynhyrchu gyda'r National Theatre ac mae'r stori'n ymwneud ag ymgais un ddynes i fod y wraig tŷ berffaith yn y 1950au.
Mae'r actorion adnabyddus Richard Harrington a Sara Gregory yn aelodau o'r cast.
Cafodd y cynhyrchiad ei lwyfannu'n gyntaf yn Theatr Clwyd yn Yr Wyddgrug y llynedd cyn trosglwyddo i'r National Theatre yn 2018 ac yna i'r West End.
Bydd y cynhyrchiad presennol yn Theatr Dug Efrog yn dod i ben ar 12 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2015