Gwahardd cynghorydd wedi sylwadau Hitleraidd 'ffiaidd'

  • Cyhoeddwyd
Prestatyn mayor Bob Murray
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Bob Murray wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater

Mae cynghorydd Llafur o Sir Ddinbych wedi ei wahardd o'r blaid yn dilyn cyhoeddiad ar Facebook oedd yn dweud fod "gan Hitler y syniad cywir".

Cafodd y Cynghorydd Bob Murray, sy'n cynrychioli ward de Prestatyn, ei wahardd ddydd Llun.

Daw hyn wedi i neges ymddangos ar dudalen Facebook yn enw'r Cynghorydd Murray yn dweud: "Roedd gan Hitler y syniad cywir. Unrhyw un â canisters nwy?"

Roedd y dudalen Facebook yn trafod presenoldeb y gymuned Teithwyr ym Mhrestatyn, ac mae'r sylw wedi ei gondemnio gan fudiadau Iddewig a'r gymuned Teithio.

Gwadodd Mr Murray iddo wneud y sylw, gan awgrymu fod ei gyfrif wedi ei hacio.

'Annerbyniol'

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r "drosedd casineb honedig".

Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur: "Mae'r Blaid Lafur yn cymryd cwynion am iaith fygythiol neu ragfarn yn hynod ddifrifol.

"Byddant yn cael eu hymchwilio yn unol â'n rheolau a bydd unrhyw gamau disgyblu priodol yn cael eu cymryd.

"Ni allwn wneud sylw am achosion unigol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y sylw ei ddileu o gyfri cynghorydd arall

Ni fydd y cynghorydd yn cael eistedd fel aelod o'r grŵp Llafur tra bod yr ymchwiliad yn parhau, a bydd am y tro yn eistedd fel cynghorydd annibynnol.

Mae AS Llafur Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, wedi condemnio'r cyhoeddiad.

"Mae'r math yma o iaith yn gwbl annerbyniol ac yn anghydnaws gyda gwerthoedd y Blaid Lafur, a'n gwerthoedd o ran cymdeithas oddefgar," meddai.

"Rwyf wedi rhoi gwybod i'r blaid a byddaf yn sicrhau fod yna ymchwiliad llawn."

'Datganiad hiliol ffiaidd'

Dywedodd Mr Murray "yn bendant" nad oedd wedi gwneud y sylw ar Facebook, gan awgrymu y gallai ei gyfrif fod wedi ei hacio.

"Felly nawr mae angen i mi siarad hefo'r heddlu a chyfreithiwr a darganfod y ffordd ymlaen," meddai.

"Ond yn bendant byddwn i ddim yn dweud rhywbeth fel yna."

Cafodd y sylwadau eu condemnio gan gynghorydd sir arall o'r un ward, Paul Penlington, oedd wedi dechrau'r sgwrs ar Facebook er mwyn "cael trafodaeth synhwyrol ar ddyfodiad Teithwyr i'w ward".

Fe ddywedodd y Cynghorydd Penlington, sydd hefyd yn aelod Llafur, fod y cyhoeddiad yn un ffiaidd, a'i fod wedi cysylltu â phenaethiaid Cyngor Sir Ddinbych ar unwaith.

"Ar ddydd Mercher 3 Ebrill, fe wnes i gyhoeddiad ar Facebook yn rhoi gwybodaeth i drigolion am gamau synhwyrol yr oedd Sir Ddinbych yn eu cymryd o ran nifer fechan o Deithwyr yn fy ward," meddai.

"Fe wnes i restru'r ffeithiau er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, oherwydd fe allai hyn fod yn bwnc dadleuol i nifer o bobl.

"Fin nos dydd Iau, fe wnaeth neges ymddangos ar fy llif Facebook yn gwneud datganiad hiliol ffiaidd.

"Roedd y neges yn enw cynghorydd arall, yn ffodus fe wnes i ei weld o fewn pum munud i'w gyhoeddi a'i ddileu. Fe wnes i anfon y wybodaeth i arweinydd y grŵp Llafur ac i bennaeth adran gyfreithiol Cyngor Sir Ddinbych yn syth.

"Rwy'n teimlo yn sâl o ddarllen y neges ac yn drist fod fy enw da wedi ei lusgo i mewn i hyn."

'Hiliaeth hamddenol'

Dywedodd Trudy Aspinwall o Travelling Ahead, Grŵp sy'n cefnogi hawliau Teithwyr, Roma a Sipsiwn, fod y cyhoeddiad yn warthus ac apeliodd ar y Blaid Lafur i ymateb yn syth.

"Ni allai'r fath yma o hiliaeth hamddenol yn erbyn cymunedau Teithwyr, Sipsiwn a Roma gael ei ddioddef."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Rydym wedi cyfeirio'r mater i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ni allwn wneud unrhyw sylw arall ar hyn o bryd."

Cadarnhaodd swyddfa'r ombwdsmon, Nick Bennett, ei fod wedi derbyn cwyn am sylw Mr Murray.

Dywedodd llefarydd ar ei ran: "Bydd y gŵyn yn cael ei hasesu cyn bydd penderfyniad i ymchwilio i'r mater neu beidio yn cael ei wneud."