'Rheolau pitw' yn peryglu pêl-droed ar lawr gwlad

  • Cyhoeddwyd
Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae rheolwr CPD Llanberis, Carwyn Jones yn pryderu am ddyfodol y clwb

Mae dau glwb pêl-droed cyfagos yn y gogledd yn pryderu am eu dyfodol wrth iddyn nhw geisio cydymffurfio â chanllawiau meysydd chwarae newydd sydd wedi'u cyflwyno gan Gymdeithas Bêl-Droed Cymru (CBDC).

Mae gan glybiau sy'n cystadlu yn y drydedd haen o bêl-droed yng Nghymru tan 30 Ebrill 2020 i gydymffurfio â chanllawiau newydd, neu wynebu disgyn i gynghreiriau is.

Dim ond pedair milltir sydd 'na rhwng pentrefi Llanberis a Llanrug, ac mae clybiau pêl-droed y ddau bentref wedi bod yn cystadlu yng Nghynghrair Undebol y Gogledd ers sawl blwyddyn.

Mae meysydd chwarae'r ddau glwb yn golygu fod yr hen elyniaeth dan fygythiad wrth i'r ddau glwb wynebu disgyn o'r gynghrair undebol os na fyddan nhw'n lledu eu meysydd.

'Cyfnod ansicr'

Yn ôl cadeirydd CPD Llanberis, Eirwyn Thomas - sydd wedi bod yn ymwneud â'r clwb ers bron i 50 o flynyddoedd: "Dyma'r cyfnod mwyaf ansicr yn hanes y clwb pêl-droed."

Mae gwefan CBDC yn datgan mai'r cynllun yw ceisio "codi safonau ac i wneud y meysydd yn fwy cyfforddus ac yn fwy diogel. Dyma'r cam naturiol o geisio cyrraedd y canllawiau ar gyfer yr ail haen."

Ar hyn o bryd, nid yw meysydd Llanrug na Llanberis ddigon llydan i gydymffurfio â'r mesuriadau disgwyliedig o 105m o hyd a 68m o ran lled, gyda'r lleiafswm o 98m o hyd a 62m o led yn cael ei dderbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw maes CPD Llanrug, Eithin Duon, yn cydymffurfio gyda chanllawiau newydd CBDC o ran maint

Mae maes Llanrug, Eithin Duon, saith metr yn fyr o ran lled, ac yn ôl eu hysgrifennydd Emyr Jones, does dim lle i'w ledaenu ymhellach.

Yn ogystal â hyd a lled y maes chwarae, mae'r clybiau hefyd yn gorfod sicrhau fod:

  • Lle i 100 o gefnogwyr mewn eisteddle erbyn tymor 2021/22;

  • Sicrhau fod system uchelseinydd yn gweithio yn y meysydd;

  • Sicrhau fod lle i 10 car barcio ar gyfer y timau a'r swyddogion.

Disgrifiad,

Mae CPD Llanberis, a rhai o gefnogwyr y 'Darans' yn poeni am ddyfodol y cae a'r clwb

Un broblem sydd gan CPD Llanberis yw bod ffordd fawr ar un ochr y cae, a thai wedi'u hadeiladu ar yr ochr arall, sydd yn ei gwneud hi'n amhosibl iddyn nhw ledu ymhellach.

Yn ôl eu rheolwr, Carwyn Jones mae'n gyfnod pryderus iawn i bawb sy'n gysylltiedig gyda'r clwb.

"Mae'r clwb yn bodoli ers 1890 ac mae wastad wedi anelu i chwarae ar y lefel uchaf bosib," meddai.

"Efallai bydd y canllawiau newydd 'ma rŵan yn golygu y bydd rhaid i ni gymryd cam yn ôl oherwydd bod ein cae ni rhyw dair i bedwar metr yn rhy fyr."

'Rheolau pitw'

Ychwanegodd Emyr Jones o GPD Llanrug: "Fel clwb ryda ni yn eithaf siomedig. Ar y funud tydi hi ddim yn edrych fel y byddwn ni yn gallu cyrraedd y gofynion.

"'Da ni'n teimlo fod y clwb wedi bod yn eithaf llwyddiannus yn y gynghrair 'Welsh Alliance' ac wedi dod ag ychydig o sylw i'r pentref a'i roi ar y map.

"Ffordd mae pethau ar y funud mi fyddwn yn disgyn i gynghrair Gwynedd. Rydym yn edrych i weld beth fyddwn ni'n gallu ei wneud gyda'r cae.

"Mae symud yn opsiwn, ond mae 'na gostau mawr gyda gwneud hynny. Ble bynnag yr awn ni mi fydd y gofynion 'ma gan y Gymdeithas Bêl-Droed yn bodoli," meddai.

Un sydd wedi bod yn dilyn Llanberis ers blynyddoedd yw Arwel Jones o'r grŵp Hogia'r Wyddfa.

Disgrifiad o’r llun,

Emyr Jones yw ysgrifennydd CPD Llanrug

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "'Da ni'n mynd i golli rhan bwysig iawn o'n cymdeithas ni fel Cymry, sef pêl-droed ar lawr gwlad... oherwydd ryw reolau bach pitw. Dwi'n teimlo'n drist iawn," meddai.

Ymateb CBDC

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru: "Mae Rheoliadau Meini Prawf Meysydd Chwarae Haen 3 CBDC yn rhan o adolygiad ehangach o Byramid CBDC sydd â'r bwriad o wella safonau ar draws Haenau 1, 2 a 3 o Byramid Pêl-droed Cymru.

"Ni fyddai'n briodol i CBDC wneud sylw ar glybiau unigol. Gallwn gadarnhau, fodd bynnag, fod y mwyafrif o glybiau yn Haen 3 wedi croesawu'r meini prawf newydd ac yn gweithio gyda CBDC er mwyn eu cyflawni erbyn Ebrill 2020.

"Mae CBDC yn cydnabod y byddai'n her ariannol aruthrol i fwyafrif y clybiau gyflawni'r meini prawf heb gymorth ariannol gan y corff llywodraethu.

"O ganlyniad, mae CBDC wedi buddsoddi swm sylweddol o arian yng nghlybiau Haen 2 a Haen 3 ers dechrau'r Adolygiad Pyramid yn 2016 drwy eu strategaeth 'Gwella Meysydd Chwarae Cymru'.

"Yn benodol, mae oddeutu £300,000 wedi cael ei fuddsoddi mewn clybiau Haen 2 rhwng 2016-2018 ac oddeutu £600,000 mewn clybiau Haen 3 yn ystod yr un cyfnod.

"Bydd y ffigwr Haen 3 yn parhau i gynyddu dros y deuddeg mis nesaf wrth i glybiau ymdrechu i gyflawni'r meini prawf erbyn y dyddiad cau o Ebrill 2020."