Llai na chwarter o artistiaid yr Amgueddfa Gen yn fenywod
- Cyhoeddwyd
Mae llai na chwarter yr artistiaid gafodd eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fenywod.
O 2016 hyd at ddiwedd 2018 roedd 23.3% o artistiaid yr arddangosfeydd dros dro yn fenywod, a 76.7% yn ddynion.
Yn sgil y ffigyrau mae galwadau i'r amgueddfa sicrhau bod 50% o artistiaid yr arddangosfeydd yn fenywod yn y dyfodol.
Dywedodd pennaeth Amgueddfa Cymru ei fod am fynd i'r afael ag "anghyfiawnder hanesyddol" y byd celf, ac y byddai'n anelu at 50% o artistiaid benywaidd mewn arddangosfeydd celf gyfoes.
273 dyn, 83 menyw
Mae arddangosfeydd dros dro yn sioeau arbennig sy'n rhedeg am ychydig fisoedd, ac sy'n cynnwys celf o gasgliad parhaol yr amgueddfa yn ogystal â gweithiau sydd ar fenthyg i'r orielau.
Rhoddodd Amgueddfa Cymru fanylion i'r BBC am arddangosfeydd dros dro yr orielau ym Mharc Cathays yng Nghaerdydd yn 2016, 2017 a 2018.
Cafodd gwaith 273 o artistiaid gwrywaidd ei ddangos yn ystod y cyfnod hwnnw, a gwaith 83 o artistiaid benywaidd.
Mae'r data'n dangos i dros hanner yr artistiaid benywaidd cael eu harddangos mewn un arddangosfa o ffotograffwyr, Women in Focus, yn 2018.
Dywedodd yr artist o Langadfan ym Mhowys, Shani Rhys James, fod y ffigyrau'n "frawychus".
"Rydych chi'n dechrau meddwl, a oes rhaid i chi fod yn hen ddyn gwyn i gael eich dangos, ac i fod yn weladwy, yn yr amgueddfa genedlaethol?" meddai.
"Yn wir, mae'n rhyfeddol bod menywod o dan y radar.
"Mae'n hynod o bwysig ein bod yn cywiro'r cydbwysedd hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dangos o leiaf 50% o fenywod."
'Anelu at 50%'
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa Genedlaethol, David Anderson ei fod yn cymryd cydbwysedd rhwng artistiaid gwrywaidd a benywaidd yn "ddifrifol iawn", ac fe gytunodd y dylai'r amgueddfa anelu at darged o 50% i artistiaid sy'n fenywod.
"Dwi'n cytuno y dylem anelu at gael mor agos â phosibl at hynny, o ystyried pa bynnag gasgliadau sydd ar gael, a'r hyn y byddem yn ei ddefnyddio," meddai.
"Ond os ydym yn edrych ar sioeau cyfoes, yna, yn yr achos hwnnw, [50%] yw'r hyn y dylem fod yn anelu ato."
Cafodd yr artistiaid gwrywaidd Ragnar Kjartansson, Syr Quentin Blake, Shimon Attie ac Ivor Davies arddangosfeydd unigol yn ôl data'r amgueddfa, ond Gillian Ayres oedd yr unig artist benywaidd i dderbyn anrhydedd tebyg.
Roedd arddangosfeydd arbennig hefyd yn canolbwyntio ar weithiau Syr Kyffin Williams ac Augustus John, ond yr unig ddynes i gael ei chydnabod yn yr un modd oedd yr awdur Agatha Christie mewn arddangosfa o ffotograffau ac eiddo personol.
Nid yw'r ffigyrau'n cynnwys 2019, lle mae dau artist gwrywaidd - Leonardo da Vinci a David Nash - yn destun arddangosfeydd yr amgueddfa ar hyn o bryd.
'Pa neges mae'n ei hanfon?'
Dywedodd Ms James fod angen i fyfyrwyr celf weld menywod yn cael eu harddangos mewn orielau sy'n derbyn nawdd cyhoeddus.
"Os nad oes gennych chi fenywod yn dangos, pa neges mae hynny'n ei hanfon?" gofynnodd.
"Mae'n anfon delwedd negyddol i fenywod ac mae'n rhaid iddyn nhw deimlo'n bositif a hyderus oherwydd mae [datblygu gyrfa fel artist] yn ymwneud â hyder."
Ychwanegodd Mr Anderson fod "anghyfiawnder hanesyddol" wrth wraidd y broblem.
"Dyma gelf o safon, o safon ryngwladol, fodd bynnag, mae'n wir hefyd fod y casgliadau hyn yn ymgorffori anghyfiawnder hanesyddol," meddai.
"Rydym bellach am fynd i'r afael â hynny, ac rydym wedi sylweddoli nad yw'r casgliadau mor gytbwys ag y dylen nhw fod - o ran rhyw, a hefyd o ran treftadaeth ddu.
"Felly rydym yn gweithio'n galed iawn i gywiro hynny."
'Cyfle i fod yn uchelgeisiol'
Byddai agor yr orielau i fwy o artistiaid benywaidd yn creu gwaith mwy "uchelgeisiol", yn ôl yr artist Cymreig Laura Ford.
Mae ei cherfluniau yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yng Nghastell Coch ar gyrion Caerdydd.
Dywedodd fod merched yn haeddu'r un cyfleoedd â dynion.
"Mae'n bwysig iawn bod ganddynt eu harddangosfeydd eu hunain, eu bod yn cael eu dangos," meddai.
"Yn rhannol oherwydd ei fod yn rhoi cyfle i fod yn fwy uchelgeisiol, fel artist, gyda'r gwaith."
Tra bod dynion wedi cael dylanwad cryf mewn orielau a cholegau celf amlwg, mae Ms Ford yn dadlau bod ystrydebau hen-ffasiwn wedi atal artistiaid benywaidd rhag cael eu trin yn gyfartal.
"Y feirniadaeth am artistiaid oedd yn fenywod oedd bod llawer o'u celf yn rhy ynysig, yn rhy fach, neu ddim yn gwneud digon o waith fyddai'n gallu llenwi oriel brydferth," meddai.
"Ac mae'n gwneud i chi feddwl, rhowch gyfle iddyn nhw a byddwch yn gweld eu bod yn gallu llenwi'r gofod hwnnw, ac yn llwyddo i gynhyrchu'r gwaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018