'Difrod troseddol' i swyddfa Plaid Cymru yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
Graffiti Swyddfa Plaid
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y graffiti ei ddarganfod gan staff fore Mercher

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i "ddifrod troseddol" wedi i graffiti gael ei beintio ar ddrws swyddfa dau wleidydd Plaid Cymru.

Cafodd y difrod ei ddarganfod gan staff Hywel Williams AS a Siân Gwenllian AC wrth iddyn nhw gyrraedd eu gwaith yn y swyddfa ar Stryd y Castell yng Nghaernarfon fore Mercher.

Yn ôl Mr Williams, aelod seneddol Arfon, mae camau diogelwch wedi cael eu cymryd yn unol â pholisi Tŷ'r Cyffredin.

Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd: "Mae fy staff yn haeddu gweithio yn rhydd o ofn a bygythiad."

Mae'r heddlu'n apelio am dystion i'r digwyddiad.

Dywedodd Mr Williams wrth Cymru Fyw: "Yn bersonol, dwi ddim yn poeni rhyw lawer am y peth, ond yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol mae'n parhau i fod yn ddigwyddiad dychrynllyd.

"Mae'r staff yn iawn, ond dyw e ddim yn beth neis o gwbl iddyn nhw."

Dywedodd Mr Williams fod gan Dŷ'r Cyffredin bolisi ar sut i ymateb i ddigwyddiadau o'r fath a'i fod ef a'i staff wedi dilyn y camau priodol.

"Mân drosedd ydy hwn, ond yn y cyd-destun presennol gyda'r holl drafod am Brexit mae'n sicr yn ergyd, ac mae hwn yn cael ei gymryd o ddifrif," meddai.