Enwi gyrrwr fu farw mewn gwrthdrawiad yn Ffostrasol

  • Cyhoeddwyd
Llyr EvansFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Llyr Evans, 31 oed o Lanarth, yn dilyn gwrthdrawiad yn Ffostrasol

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dyn 31 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ne Ceredigion nos Fercher.

Bu farw Llyr Evans o Lanarth, oedd yn gyrru Ford Ranger glas, wedi gwrthdrawiad ar yr A486 ger Clwb Pêl-droed Ffostrasol am 22:00.

Roedd yn teithio o gyfeiriad Synod Inn.

Dywedodd datganiad ar ran y teulu: "Gyda chalon drom rhannwn y newyddion trist am golled ein hannwyl fab, brawd ac wncwl, Llyr Evans.

"Diolchwn am yr holl negeseuon a chefnogaeth a gofynnwn yn garedig iawn i bawb barchu ein dymuniad i alaru mewn preifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma."

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth, ond dywedodd y llu bod neb arall yn gysylltiedig â'r digwyddiad.