Arestio merch 17 oed ar amheuaeth o gynnau tân Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
The CenturionFfynhonnell y llun, Andy Long
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr heddlu wedi annog y cyhoedd i osgoi'r ardal nos Iau

Mae merch yn ei harddegau wedi cael ei harestio ar amheuaeth o gynnau tân mewn tafarn wag yng Nghasnewydd.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru roedd y tân yn nhafarn y Centurion nos Iau yn un difrifol.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod merch 17 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o losgi bwriadol a'i bod yn parhau yn y ddalfa.

Fe wnaeth y llu gadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad ar y cyd gyda'r gwasanaeth tân.

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu.

Ffynhonnell y llun, Nicola Collis