Neil Warnock yn wynebu cyhuddiad o ymddygiad amhriodol

  • Cyhoeddwyd
Neil WarnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Neil Warnock aros ar y cae ar ôl y chwiban olaf i ddangos ei anniddigrwydd â'r tîm dyfarnu

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Neil Warnock, wedi cael ei gyhuddo o ymddygiad amhriodol gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Daw'r cyhuddiad yn dilyn sylwadau Warnock mewn cyfweliadau ar ddiwedd y gêm rhwng Caerdydd a Chelsea ar 31 Mawrth.

Fe gollodd Caerdydd o 2-1 ar ôl cyfres o benderfyniadau dadleuol gan y tîm dyfarnu, a dywedodd rheolwr yr Adar Gleision mai dyfarnwyr Uwch Gynghrair Lloegr yw'r "gwaethaf yn y byd".

Mae gan Warnock tan 16 Ebrill i ymateb i'r cyhuddiad.

'Dyletswydd i aros'

Yn ystod cynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, fe wnaeth Warnock hefyd awgrymu ei fod yn gobeithio aros gyda'r clwb wedi diwedd y tymor hwn.

"Tra bod Vincent [Perchennog y clwb Vincent Tan] eisiau i mi aros, dim ots pa gynghrair ry'n ni ynddo, dwi'n teimlo dyletswydd i'r cefnogwyr i aros," meddai.

"Fe wnes i newid fy meddwl yn ystod y misoedd diwethaf ar ôl trychineb Emiliano Sala, ond wrth edrych ar y sefyllfa nawr, dydw i ddim yn gweld neb gwell i gymryd drosodd ar hyn o bryd."

Ychwanegodd: "Os ga' i'r cyfle i sefydlogi pethau tymor nesaf, bydda i yn fy mlwyddyn olaf ac yn gallu helpu'r clwb wrth ddewis olynydd."