Uwch Gynghrair Lloegr: Burnley 2-0 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Fe roedd yna ergyd pellach i obeithion prin Caerdydd i osgoi disgyn o'r Uwch Gynrhair ar ôl colled ddadleuol yn Turf Moor.
Gyda Burnley ar y blaen drwy beniad Chris Wood o gic cornel, fe ddyfarnwyd cic o'r smotyn i Gaerdydd ar ôl i'r amddiffynnwr Ben Mee benio'r bêl yn erbyn ei fraich.
Ond penderfynodd y dyfarnwr, Mike Dean, newid ei benderfyniad ar ôl trafod gyda'r llumanwr - gan wylltio chwaraewyr Caerdydd.
Fe wnaeth Wood sgorio ail beniad yn hwyr yn y gêm, gan olygu fod bwlch o bum pwynt rhwng Caerdydd a'r timau uwch eu pennau gyda phum gem yn weddill.
Roedd Caerdydd hefyd yn hawlio cic smotyn ar dri achlysur arall, gan ddweud fod Mee a James Tarkowski wedi llawio'r bêl, a bod Charlie Taylor wedi troseddu yn erbyn Aron Gunnarsson yn y cwrt cosbi.
Mae gan Gaerdydd 28 pwynt, gyda Brighton ar 33, ond wedi chwarae un gêm yn llai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019