Cynllun i adeiladu canolfan iaith ym Mangor yn y fantol
- Cyhoeddwyd

Roedd disgwyl i gannoedd o swyddi parhaol gael eu creu pe bai atomfa Wylfa Newydd yn weithredol erbyn canol y 2020au
Gallai dyfodol canolfan iaith newydd arfaethedig ym Mangor fod yn y fantol yn dilyn oedi cynllun Wylfa Newydd.
Roedd Cyngor Gwynedd wedi gobeithio y byddai Horizon - y cwmni oedd y tu ôl i gynllun £15bn Wylfa Newydd - yn cyfrannu at gostau rhedeg y ganolfan newydd.
Nod y ganolfan yw trochi disgyblion sy'n cyrraedd y sir am y tro cyntaf yn y Gymraeg.
Mae pum canolfan debyg eisoes yn bodoli yng Ngwynedd, ac roedd Llywodraeth Cymru wedi cytuno i dalu £1m i sefydlu canolfan ym Mangor ac i uwchraddio dwy ganolfan arall.
Ond fe ddywed yr awdurdod lleol nad ydyn nhw'n medru fforddio talu costau rhedeg y ganolfan.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor ei fod yn cyfaddef bod oedi cynllun Wylfa Newydd wedi achosi ansicrwydd am gyllido.
Ond ychwanegodd ei fod yn dal i gefnogi cynllun canolfan iaith Bangor ac yn ystyried sut y bydd modd talu'r costau.
Dywedodd Menna Baines o Fenter Iaith Bangor, sy'n ceisio hybu a hyrwyddo'r iaith yn y ddinas, bod sefydlu'r ganolfan yn hanfodol.
Galwodd ar Gyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru a mudiadau a sefydliadau eraill i ddod at ei gilydd er mwyn trafod y ffordd orau ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2016
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2014