Marwolaeth bachgen: Apêl am help i ddal deliwr cyffuriau
- Cyhoeddwyd
Mae ditectifs sy'n ymchwilio i farwolaeth bachgen 13 oed yn Sir Caerffili yn apelio ar y gymuned leol am eu cymorth i ddod o hyd i'r sawl a werthodd cyffur anghyfreithlon iddo.
Dywed swyddogion Heddlu Gwent y byddai trigolion lleol yn gwybod pwy oedd wedi cyflenwi cyffuriau i Carson Price o Hengoed, fu farw wedi iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol ym Mharc Ystrad Mynach nos Wener.
Mae'r Uwcharolygydd Nick McLain hefyd yn erfyn ar oedolion i roi'r "hyder a'r dewrder" i bobl ifanc gynnig gwybodaeth i'r heddlu.
Dywedodd na allai gadarnhau eto sut y bu farw Carson, ond canolbwynt yr ymchwiliad yw'r posibilrwydd bod cyffuriau yn ffactor.
Mae'r llu'n ymchwilio i fath arbennig o'r cyffur MDMA, neu ecstasi - sef tabledi Donkey Kong.
Does neb wedi cael eu harestio, ond mae ditectifs "yn dilyn sawl trywydd" a'r ymchwiliad bellach wedi ymestyn i bob rhan o Gaerffili.
"Mae ein hymchwiliad yn awgrymu bod yr hyn rydyn ni'n credu oedd yn gyffuriau wedi'u prynu cyn i Carson ymweld â'r parc," meddai'r Uwch-Arolygydd McLain.
"Rydym â diddordeb yn benodol yn symudiadau Carson cyn iddo ymweld â'r parc y noson honno. Rwy'n credu bod rhywun yn rhywle wedi gwerthu cyffuriau anghyfreithlon i Carson, a bydd pobl eraill yn yr ardal yn gwybod pwy oedd y person yna.
"Wnawn ni ddim goddef hyn yng Ngwent... mae cyflenwi cyffuriau yn difetha bywydau pobl ac rydym yn gofyn wrth drigolion i gysylltu â ni yn syth os oes gyda nhw unrhyw wybodaeth ynghylch y cyflenwyr yma."
Mae'r heddlu'n cynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn Ysgol Lewis, Pengam lle roedd Carson yn ddisgybl.
Mae'r Uwcharolygydd McLain yn annog pobl i beidio â chadw draw o Barc Ystrad Mynach, gan bwysleisio bod plismyn lleol wedi "gweithio'n ddiflino" gydag asiantaethau eraill i ddiogelu'r safle yn sgil adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Hyd yma eleni mae'r heddlu wedi gosod pum gorchymyn gwasgaru yn y parc.
Roedd yna swyddogion ieuenctid cymunedol yn y parc nos Wener, fel rhan o'r ymdrechion i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ymhlith pobl ifanc ond doedd yr heddlu ddim yn gallu cadarnhau a ddaethon nhw ar draws Carson cyn iddo gael ei ddarganfod yn anymwybodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2019