Tanau glaswellt milltir o hyd ar ochrau mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
RhigosFfynhonnell y llun, Rhian Grundy
Disgrifiad o’r llun,

Tan a mwg i'w weld ar lethrau'r Rhigos yn Rhondda Cynon Taf

Mae diffoddwyr tân yn brwydro yn erbyn tanau glaswellt mawr ar ochrau mynyddoedd yn y de-ddwyrain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fynydd Maerdy yn Rhondda Cynon Taf toc wedi 17:30, lle mae 88 hectar o ochr y mynydd ar dân.

Ychydig wedi hynny, cafodd diffoddwyr tân eu galw i dân 50 hectar - tua milltir o hyd - yn y Rhigos, gyda gwyntoedd cryfion yn achosi iddyn nhw ledaenu'n gyflym.

Dywedodd Rhian Grundy, sy'n byw yn Llwydcoed yn Aberdâr, ei bod yn gallu gweld "cylch perffaith o dân" ar y Rhigos o'i thŷ.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân hefyd ddiffodd tanau ym Mrynmenyn, Pen-y-bont, Treharris ym Merthyr Tudful, Gilfach Goch yn Rhondda Cynon Taf ac ym Mhontardawe.