Sut ddylen ni ymateb i'r fandaliaeth ar gofeb Tryweryn?
- Cyhoeddwyd
Nos Wener, 13 Ebrill, cafodd wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud ei difrodi am y trydydd tro eleni.
Yn hytrach na'i difrodi gyda phaent, y tro yma fe gafodd darn sylweddol o'r wal ei ddinistro.
O fewn 24 awr daeth gwirfoddolwyr at ei gilydd i ailadeiladu'r wal ac ailbaentio'r ysgrifen.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod yn trin difrodi'r wal fel trosedd casineb, ac maent wedi gosod camera cylch-cyfyng ger y safle.
Ond sut ddylen ni ymateb i'r difrodi? Un wnaeth ymateb i'r stori ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws, sy'n egluro mwy am ei safbwynt gyda Cymru Fyw.
Felly mae rhywun wedi ymosod ar wal 'Cofiwch Dryweryn'. Dydy o fawr o syndod a dweud y gwir. Tra'n bod ni'n ymateb yn chwyrn fel y byddwn ni mi fydd y wal yn cael ei thargedu drosodd a throsodd. Felly be' wnawn ni?
Yn sicr nid bytheirio a rhegi a galw am dywallt gwaed yw'r ateb hir-dymor ond chwyldro llawer iawn mwy effeithiol, sef defnyddio'r Gymraeg. Mae mor syml â hynny. Ei defnyddio o hyd ac o hyd. Mynnu'r Gymraeg a'i siarad byth a beunydd. Cychwyn pob sgwrs yn Gymraeg a'u boddi nhw a'u syrffedu nhw efo'r iaith a phrofi nad ydi hi am ddiflannu.
Mae 'na hen ddywediad yn Yr Aifft pan fyddai carafan o gamelod yn cyrraedd pentref bychan a rhyw gŵn bach swnllyd a di-nod yn cythru i frathu eu coesau nhw, "Mi geith y rhechgwn gyfarth ddydd a nos ond mi fydd y garafan yn mynd yn ei blaen'.
Ond ni fydd siarad Cymraeg dow-dow Pen Llŷn na Chwmrâg y 'Wes, wes!' yn datrys problem y wal. Be' wnawn ni efo honno?
Mae rhai wedi galw ar i Sain Ffagan ei diogelu ond Sain Ffagan siŵr o hynny.
Ond wedyn pam lai? Pam ddim mynd â'r cerrig gwreiddiol (o leiaf mae rhywfaint o'r paent gwreiddiol arnyn nhw) i'r Amgueddfa Werin lle cawn nhw eu gwarchod ddydd a nos hyd dragwyddoldeb?
Yna, fe gawn griw at ei gilydd i Lanrhystud a chodi wal newydd sbon, mymryn yn dalach a lletach na'r llall a'i phaentio fel yr oedd hi'n wreiddiol.
Achos nid amgueddfa yw lle rhywbeth sydd yn parhau i wneud ei waith. Nid hen grair yw'r wal ond peth byw sy'n parhau i danio pobl. Mae'n hyd yn oed prysurach pan fydd rhywun yn ei thynnu i lawr neu'n paentio 'Elvis' drosti.
Ia, codi ail wal, dyna wnawn ni a fydd y pennau bach sydd mor benderfynol o'i chwalu fawr callach mai 'copi' fydd hi. Ac unwaith y bydd graffiti newydd drosti i gyd, mi geith ei phaentio eto ac eto ac eto nes eu bod nhw'n laru. Eu syrffedu nhw efo paent yn ogystal â geiriau.
Mae gan y Cymry (Cymraeg a di-Gymraeg) fwy o awydd gweld y wal yn sefyll na sydd gan ei gelynion i'w gweld yn syrthio.
Yn barod mae rhai wedi bod wrthi yn paentio wal ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Da iawn nhw ond sylwais bod 'Yes Cymru' wedi hawlio'r murlun drwy adael eu henw ar ei gwaelod. Mae pob artist graffiti gwerth ei halen yn gwybod mai creu'r gwaith a gadael yn ddi-enw yw'r ffordd i ddenu ymateb. Cofiwch hynny os ydych chi am baentio wal arall yn rhywle.
Yn y cyfamser, mae gen i swm bach o arian yn fy mhoced i fynd tuag at symud y wal wreiddiol i Sain Ffagan, ac mae gen i fag o sment, trywel a brwsh paent yn y sied i godi un arall yn ei lle. Pwy arall sy'n gêm?
Hefyd o ddiddordeb: