Galw am wneud mwy i ddiogelu wal 'Cofiwch Dryweryn'

  • Cyhoeddwyd
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ailadeiladu a gwarchod y wal ger Llanrhystud
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn ailadeiladu a gwarchod y wal ger Llanrhystud

Mae ymgyrchwyr yn dweud fod angen gwneud mwy i ddiogelu wal 'Cofiwch Dryweryn' ger Llanrhystud ar ôl iddi gael ei difrodi gan fandaliaid nos Wener am y trydydd tro eleni.

Ddydd Sadwrn aeth grŵp o wirfoddolwyr ati i ailadeiladu'r wal, gyda rhai yn aros dros nos ar y safle i sicrhau nad oedd mwy o ddifrod.

Mae ymgyrch codi arian ar y we eisoes wedi codi dros £3,000 ers dydd Sadwrn.

Cafodd graffiti 'Cofiwch Dryweryn' ei baentio yn y lle cyntaf yn y 1960au gan y diweddar ysgolhaig Meic Stephens.

Mae'n cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn ger Y Bala yn 1965 i greu cronfa ddŵr ar gyfer trigolion Lerpwl.

Cofiwch DrywerynFfynhonnell y llun, @jezb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'gofeb' wedi ei hail-baentio sawl gwaith -ond cafodd rhan o'r wal ei chwalu nos Wener

Yn ôl Helen Mary Jones AC Plaid Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru mae'r wal yn symbol o bwys mawr.

"Mae'n symbol pwysig oherwydd mae angen cofio beth ddigwyddodd yn Nhryweryn.

"Fe wnaeth arwain at newid yng ngwleidyddiaeth Cymru. Yn fuan wedyn cafodd AS Plaid Cymru ei ethol, ac ar ôl hynny roedd pobl yn cwestiynu ein dyfodol fel cenedl a'n gallu i amddiffyn ein hunain," meddai Ms Jones.

"Roedd y wal, pan gafodd ei phaentio gyntaf yn y 1960au, yn gri o ddicter - yn gri o anobaith.

"Mae yna rywbeth eithaf Cymreig am y ffaith fod darn o graffiti wedi tyfu mewn pwysigrwydd ym meddyliau pobl i fod yn symbol cenedlaethol."

Mae'r wal wedi ei lleoli ar dir preifat, ger yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud, ac mae yna alwadau wedi bod i'w diogelu.

Cofeb Tryweryn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gair 'Agari' ei baentio ar y wal yn gynharach yr wythnos hon

Dywedodd Ms Jones fod trafodaethau eisoes wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion er mwyn dod â'r wal yn rhan o berchnogaeth gyhoeddus.

"Mae'n werth ei hamddiffyn oherwydd ei bod yn rhan o'n hanes.

"Yn ddealladwy, mae wedi yspsetio a gwylltio lot o bobl.

"Den ni ddim angen ffens haearn o'i hamgylch na weiren bigog."

Mae Llyn Celyn yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd a dywedodd yr AS lleol Liz Saville Roberts ei bod yn amlwg fod rhywun yn targedu'r wal.

Disgrifiad,

Mae Liz Saville Roberts AS yn dweud ei bod hi'n amlwg bod rhywun yn targedu'r wal

Ym mis Chwefror cafodd enw Elvis gyda chalon mewn lliw gwyn dros gefndir du ei baentio ar y wal.

Dywedodd llefarydd ar ran Cadw, corff llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddiogelu amgylchedd hanesyddol, eu bod eisoes wedi cynnal cyfarfod 'adeiladol' gyda Chyngor Cymuned Llanrhystud am ddyfodol Wal Cofiwch Dryweryn.

"Derbyniwyd yn y cyfarfod na ellid rhestru'r safle i'w warchod yn y ffordd sydd ei angen - byddai hynny, mewn gwirionedd, yn ei gwneud yn anos i'w reoli yn y dyfodol.

"Mae angen ateb gwreiddiol a gwahanol a bydd Cyngor Cymuned Llanrhystud yn mynd ati i ystyried ffyrdd o gydweithio â phartneriaid, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i lunio cynllun rheoli hirdymor ar gyfer y safle hwn."