Galw am roi mwy o gyfleoedd gwaith i gyn-droseddwyr

  • Cyhoeddwyd
Lee Dutton
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Lee Dutton gyfnod yn y carchar

Mae galwadau ar gyflogwyr yng Nghymru i beidio â rhoi gormod o bwyslais ar gofnodion cefndir troseddol yn ystod y broses recriwtio.

Dangosodd gwaith ymchwil gan BBC Cymru fod 15 o 36 cwmni sector preifat yn gofyn am ddatgelu unrhyw gyhuddiadau wrth ymgeisio am swydd, tra bod 19 arall yn delio â'r mater yn hwyrach yn y broses.

Dim ond dau gwmni ddywedodd nad oedden nhw'n holi am gefndir troseddol o gwbl.

Mae un cyn-droseddwr yn dweud bod rhwystrau yn y byd gwaith yn gallu cynyddu'r pwysau ar unigolion, a bod angen rhoi cyfle i bobl "ddangos eu gwerth".

Yn ôl Lee Dutton, sydd wedi treulio 20 mlynedd fewn ac allan o'r carchar, mae ceisio dod o hyd i swydd yn her wirioneddol.

"Unwaith rydych chi'n datgelu'r ffaith bod gennych chi gofnod troseddol, dydych chi byth yn clywed 'nôl," meddai.

Mae Mr Dutton, 45 oed o'r Barri, bellach yn gweithio gyda'r elusen Ymddiriedolaeth St Giles - sy'n ceisio helpu pobl ifanc sydd wedi cael trafferthion gyda'r gyfraith.

Dywedodd Mr Dutton fod disgwyliadau carcharorion yn gallu bod yn rhy uchel ar ôl iddyn nhw ailymuno â chymdeithas.

'Oes pwrpas cario 'mlaen?'

Dechreuodd Mr Dutton drwy wirfoddoli cyn gweithio'i ffordd i fyny, ond hoffai weld cyflogwyr yn rhoi mwy o gyfleoedd i gyn-garcharorion drwy edrych y tu hwnt i'w cofnodion troseddol.

Ychwanegodd: "Mae'n gallu gwneud i chi deimlo'n eithaf isel wrth i chi geisio ailadeiladu eich bywyd... mae yna bwysau'n dod o'r ganolfan waith a 'da chi'n dechrau gofyn 'a oes pwrpas cario 'mlaen?'

"Mae hi'n bwysig rhoi ail, trydydd neu bedwerydd cyfle i bobl... rydw i'n un o'r miloedd yng Nghymru sy'n disgwyl am y cyfle yma.

"Efallai eich bod chi'n gweld hynny fel gambl, ond pan mae rhywun yn cymryd y siawns rydyn ni'n talu 'nôl, yn dangos ein gwerth fel unigolion a'r hyn gallwn ni gynnig i'r cwmni."

Disgrifiad o’r llun,

Dylai hi fod yn haws i gyn-droseddwyr gael swyddi, yn ôl Leanne Wood

Dywedodd Christopher Stacey, cyd-gyfarwyddwr elusen Unlock, ei fod yn cydnabod fod yno rai swyddi lle byddai cyhuddiad yn rheswm digonol i ddiystyru rhai ymgeiswyr, ond bod yr achosion hyn yn eithaf prin.

"Yn amlwg mae yno eithriadau," meddai, "ond mae'r mwyafrif o bobl sydd â chofnod troseddol yn ymgeiswyr addas, yn ymgeiswyr safonol, ac mae cyflogwyr yn methu allan."

'Rhaid cael cydbwysedd'

Mae Leanne Wood, llefarydd ar ran Plaid Cymru a chyn-swyddog prawf, yn cefnogi'r syniad o waredu'r cwestiynau am gofnodion troseddol ar ffurflenni cais, ac yn awgrymu y dylai'r mater gael ei drafod yn hwyrach yn y broses recriwtio.

"Rydw i'n ymwybodol o sut mae cyn-droseddwyr yn cael eu gwahaniaethu o fewn y sector gwaith," meddai. "Dylai hi fod yn haws i bobl gael swyddi... wedi'r cyfan, dyma'r ffordd orau iddyn nhw adsefydlu.

"Ond fel cyflogwraig, hoffwn gael digon o hyder yn y system fel pe bawn i'n cyflogi rhywun â chofnod troseddol yna byddai modd i mi wybod yn union beth oedd y cyhuddiadau yn eu herbyn er mwyn sicrhau na fyddant yn effeithio ar y swydd."

Ychwanegodd Ms Wood bod "rhaid cael cydbwysedd".