Llywodraeth am drafod cynllun £185m dociau Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Dociau Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynllun ffordd liniaru'r M4 yn arwain at fuddsoddiad o £185 yn nociau Casnewydd

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal trafodaethau gyda chontractwyr ynglŷn â phrosiect gwerth £185m sy'n gysylltiedig â ffordd liniaru'r M4.

Nid yw gweinidogion wedi penderfynu os bydd y ffordd yn cael ei hadeiladu neu beidio, ond maen nhw eisiau cynnal digwyddiad ar gyfer cwmnïau sydd â diddordeb mewn cynlluniau i wella dociau Casnewydd - gwaith sydd ei angen er mwyn cymeradwyo'r ffordd.

Dywedodd y llywodraeth eu bod nhw'n cynnal "trafodaethau anymrwymol".

Mae ymgyrchwyr sydd yn erbyn creu'r ffordd liniaru wedi datgan eu pryder am y trafodaethau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrth bapur newydd y South Wales Argus ei fod yn disgwyl cyhoeddiad am ddyfodol y cynllun o fewn y mis nesaf.

Nododd gwefan Sell2Wales bod gweinidogion Cymreig yn cynnal digwyddiad er mwyn cyflwyno'r prosiect i'r farchnad, yn ogystal ag edrych yn fanylach ar y broses dendro.

Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, maen nhw'n cynnal "trafodaethau cynnar, anymrwymol gyda chontractwyr posib" er mwyn sicrhau y byddai'r broses yn un llyfn pe bai'r cynllun yn cael ei gymeradwyo.

Mae'r gwaith yn y dociau yn cynnwys creu adeiladau newydd ar gyfer y cwmnïau sydd wedi eu lleoli yno yn ogystal â datblygu ardal ddeheuol y dociau wedi pryderon y byddai'n dioddef o ganlyniad i'r ffordd newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i weinidogion wneud penderfyniad ar ddyfodol y cynllun o fewn y mis

Dywedodd Jayne Byrne o Ymddiriedolaeth Natur Cymru, ei fod yn pryderu am effaith y cynllun.

"Byddai cymeradwyo ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn groes i gyngor Cymorth Naturiol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol," meddai.

Ychwanegodd na fyddai'r cynllun yn cyd-fynd â Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol chwaith.