'Diffyg bwyta wrth or-hyfforddi yn peryglu athletwyr'
- Cyhoeddwyd

"Mae rhedeg wedi bod yn rhan anhygoel o fy mywyd"
"Roedd fy asgwrn ffêr wedi marw a doedd gen i ddim ffêr… roedd y sgan yn ddu".
Mae Gina Paletta, rhedwr pellter sydd wedi cynrychioli Cymru, wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf mewn poen cyson, a'r rhan fwyaf y llynedd ar faglau.
Yn 28 oed mae ganddi osteoporosis, mae hi ar ffurf ysgafn o Therapi Adfer Hormonau (HRT) ac yn delio â chyflwr o'r enw Relative Energy Deficiency in Sport (Red-S).
Nawr mae hi eisiau codi ymwybyddiaeth o beryglon i athletwyr sy'n peidio â bwyta'n ddigonol wrth or-hyfforddi.
'Dwi'n ei golli cymaint'
Aeth yr athletwraig at ei meddyg am y tro cyntaf wyth mlynedd yn ôl pan ddaeth ei mislif i ben.
"Dywedodd wrthyf ei fod yn normal oherwydd fy mod yn rhedwr pellter," meddai.
Er gwaethaf y ffaith fod colli mislif yn rhybudd fod gan athletwyr benywaidd Red-S, dywedwyd wrthi nad oedd angen poeni nes ei bod yn barod i gael plant.
"Mae rhedeg wedi bod yn rhan anhygoel o fy mywyd... dwi'n ei golli cymaint," dywedodd.

Mae Ms Paletta wedi cynrychioli Cymru a Phrydain dros y blynyddoedd
Dechreuodd Ms Paletta redeg pan oedd yn wyth oed, rhedodd i Gymru am y tro cyntaf yn 12 oed ac mae hi hefyd wedi cynrychioli Prydain.
Bu'n byw yn yr Unol Daleithiau am bum mlynedd, gan redeg i Brifysgol Portland. Roedd hi wedi bod yn bwyta tri phryd y dydd ond mae'n cyfaddef nad oedd yn ddigon.
"Roeddwn i'n arfer cael un snac y dydd. Nawr rwy'n bwyta tri ac mae un o'r rhain yn gacen", ychwanegodd.
Ar ôl dychwelyd i Gymru yn 2016 dechreuodd gael problemau gyda thoriadau straen.

Sgan o ffêr Ms Paletta yn 2016 - byddai asgwrn iach yn ymddangos yn wyn
Ar ôl cyfnod byr o orffwys a blynyddoedd o boen, datgelodd sgan o'i ffêr y llynedd maint y problemau gyda'i hesgyrn a chafodd ddiagnosis o Red-S.
Gall y cyflwr effeithio athletwyr gwrywaidd a benywaidd a daeth yn gyflwr cydnabyddedig yn 2014.
Nifer fach o astudiaethau sydd wedi bod i achosion y cyflwr ond mae'n debygol o fod yn fwyaf cyffredin mewn chwaraeon fel athletau, beicio a dawnsio - lle mae bod yn ysgafn yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i berfformiad a chanlyniadau.
Gall achosi amrywiaeth o broblemau iechyd mewn dynion a menywod gan gynnwys gostyngiad mewn lefelau hormonau, dirywiad mewn dwysedd esgyrn, gostyngiad mewn cyfradd metabolaidd a phroblemau iechyd meddwl.
'Gallu effeithio unrhyw un'
Dywedodd y dietegydd a'r awdur Renee McGregor, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r athletwr, y gall Red-S "effeithio ar unrhyw un sy'n ymarfer corff yn gyson ac sy'n cymryd eu camp o ddifrif.
"Yn anffodus, mae yna farn draddodiadol, fod hi'n iawn i beidio â chael mislif os ydych chi'n athletwr. Dydi hi byth yn iawn i beidio â chael mislif fel menyw oni bai eich bod chi'n feichiog neu'n bwydo o'r fron wrth gwrs."
Rhybuddiodd y gall negeseuon bwyta'n iach sy'n dweud wrth bobl i "symud mwy a bwyta llai" yn ogystal â dylanwad cyfryngau cymdeithasol gael effaith niweidiol ar athletwyr amatur ac elitaidd.

Mae Ms Paletta wedi gorfod treulio'r rhan fwyaf o'r 12 mis diwethaf ar faglau
Dywedodd yr arbenigwraig anhwylder bwyta, sydd wedi gweithio gyda thimau Olympaidd a Pharalympaidd, fod angen i bobl wybod y bydd hi'n cymryd amser i wella os ydynt wedi cyfyngu eu maeth ac wedi gor-hyfforddi yn ddifrifol ac ychwanegodd, yn y rhan fwyaf o achosion, bod y canlyniad yn gadarnhaol.
Ychwanegodd y dietegydd: "Mae'n bosib gwrthdroi popeth ond mae'n rhaid i chi fod yn eithaf amyneddgar a pharhaus a derbyn y byddwch chi'n teimlo'n hollol wahanol."
Nid yw Ms Paletta mewn poen bellach - mae hi'n gobeithio gorffen HRT yn fuan ac yn bwriadu dechrau rhedeg eto yn y dyfodol agos.
"Bydd yn anodd ond yn anhygoel," meddai, "rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at allu rhedeg eto ond bod yn iach tro 'ma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2017