Apêl teulu wedi gwylnos er cof am Carson Price yn Ystrad Mynach

  • Cyhoeddwyd
Carson PriceFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae teulu bachgen 13 oed fu farw yr wythnos ddiwethaf wedi gwneud apêl i'r cyhoedd am wybodaeth all fod o gymorth i ymchwiliad yr heddlu.

Bu farw Carson Price ar 12 Ebrill ar ôl iddo gael ei daro yn wael mewn parc yn Ystrad Mynach.

Mae bachgen 14 oed bellach wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.

Mewn gwylnos ym Mharc Ystrad Mynach ddydd Iau, dywedodd teulu Carson bod eu bywydau wedi cael eu "trawsnewid yn llwyr".

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o bobl yn bresennol yn y digwyddiad ym Mharc Ystrad Mynach

Disgrifiad o’r llun,

Roedd blodau a theganau meddal ymysg y rhoddion gafodd eu gadael

Cafwyd hyd i Carson yn anymwybodol ym Mharc Ystrad Mynach tua 19:20 ddydd Gwener.

Bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddarach.

Nawr mae ei deulu wedi annog eraill i drafod cyffuriau gyda'u hanwyliaid er mwyn osgoi sefyllfa debyg arall.

'Profiad annioddefol'

Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd Carson yn fachgen clên a chariadus. Roedd yn hogyn direidus ac yn frawd mawr arbennig.

"Mae meddwl am deulu arall yn cael yr un profiad yn annioddefol. Rydyn ni'n annog pobl i drafod y canlyniadau ofnadwy gall gyffuriau gael ar fywydau.

"Rhieni, plîs siaradwch gyda'ch plant, neu os ydych chi'n ifanc ac angen cymorth, cofiwch fod yno help ar gael."

Ychwanegodd y datganiad: "Os all unrhyw un helpu i ddarganfod y rhai sydd yn gyfrifol, rydyn ni'n erfyn arnoch i ddod yn eich blaenau."