Milltir y dydd am flwyddyn: Hanner ffordd drwy'r her
- Cyhoeddwyd
Mae dynes fusnes o Gaerdydd wedi cyrraedd hanner ffordd yn ei her i gerdded milltir y dydd am flwyddyn.
Bwriad Catrin Atkins yw cwblhau 365 milltir mewn 365 diwrnod er gwaetha'i chyflwr - spina bifida.
Mae ei gŵr, Dan, hefyd wedi bod yn yr ysbyty ar ôl llawdriniaeth i'w gefn.
Fe gafodd Catrin y syniad o'r her er mwyn helpu elusen Shine sydd yn cefnogi pobl â spina bifida.
"Dwi just dros hanner ffordd," meddai, "nes i ddechrau meddwl am yr her ar fy mhen-blwydd y llynedd pan o'n i'n 39, ac o'n i'n Ysbyty Llandochau.
"Yn Ysbyty Llandochau, mae'r Coridor ysbyty hiraf yn Ewrop,
"O'n i 'tha 'tra dwi yma, os fedra i wneud i fyny ac i lawr ar hyd y coridor yna, wel dwi wedi gwneud milltir'."
Eglurodd Catrin ei bod wedi cerdded hyd a lled Cymru.
"O ogledd Cymru i lawr i Gaerdydd 'ma. Dwi hefyd wedi bod yng Ngwlad yr Iâ yn cerdded.
"Gan fy mod yn cerdded efo ffyn dwi methu cerdded yn ganol y coed neu yng nghanol cae yn rhywle, gymaint â hynny, yn bendant ddim milltir."
Dywedodd Catrin ei bod hefyd yn gallu ffendio hi'n anodd i gerdded y filltir o ddydd i ddydd a'i bod weithiau yn cwblhau ei milltir dyddiol ar beiriant rhwyfo yn y gampfa.
"Nes i roi nod i fi fy hun o hel £3650, am bo' fi'n cerdded 365 o ddyddiau ac o filltiroedd wrth gwrs.
"Gawn ni weld, gobeithio erbyn y diwedd y byddai wedi cyrraedd y nod," ychwanegodd Catrin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2019