Apêl i helwyr ar ôl i ddyn, 74, gael ei saethu â bwa croes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedrannus yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi iddo gael ei saethu â bwa croes ar gyrion Caergybi.
Fe dderbyniodd Gerald Corrigan anafiadau all beryglu bywyd yn y digwyddiad tu allan i'w gartref yn oriau mân fore Gwener.
Mae Heddlu Gogledd Cymru bellach yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un sy'n ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd.
Oherwydd natur ei anafiadau, dywedodd yr heddlu fod Mr Corrigan, 74, bellach wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke-on-Trent.
Dywedodd ei deulu eu bod nhw'n ceisio dod i delerau â'r digwyddiad "dychrynllyd" yma.
Y teulu'n 'obeithiol'
"Allwn ni ddim meddwl am unrhyw un fyddai eisiau anafu ein tad a'n partner annwyl," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth o gwbl am yr hyn sydd wedi digwydd, waeth pa mor fach, dywedwch wrth yr heddlu.
"Hoffem dalu teyrnged i'r gwasanaeth ambiwlans a'r staff meddygol am y gwaith anhygoel maen nhw wedi'i wneud.
"Rydym yn parhau'n obeithiol ac yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg anodd yma."
'Anarferol iawn'
Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn ceisio trwsio lloeren deledu pan gafodd ei saethu tu allan i'w gartref ger y gyffordd rhwng Lon Porthdafarch a Ffordd Plas.
Ar ôl ymchwilio'r anafiadau fe ddaeth staff meddygol i'r casgliad bod yr anafiadau yn gyson gyda rhai o ymosodiad â bwa croes.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Brian Kearney fod y digwyddiad yn "anarferol iawn" ar gyfer yr ardal a'u bod nhw'n benderfynol o ganfod y sawl sy'n gyfrifol mor fuan â phosib.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.