Marwolaeth Carson Price: Rhyddhau bachgen, 14, ar fechnïaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhyddhau bachgen 14 oed ar fechnïaeth yn dilyn marwolaeth Carson Price.
Bu farw Carson Price, 13, ar 12 Ebrill ar ôl iddo gael ei daro yn wael mewn parc yn Ystrad Mynach.
Cafodd bachgen 14 oed ei arestio ddydd Iau ar amheuaeth o gyflenwi cyffuriau dosbarth A.
Yn dilyn ymchwiliadau, mae'r heddlu bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth iddyn nhw ofyn am gyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
'Siaradwch gyda'ch plant'
Mewn gwylnos ym Mharc Ystrad Mynach ddydd Iau, dywedodd teulu Carson bod eu bywydau wedi cael eu "trawsnewid yn llwyr".
Nawr mae ei deulu wedi annog eraill i drafod cyffuriau gyda'u hanwyliaid er mwyn osgoi sefyllfa debyg arall.
Dywedodd y teulu mewn datganiad: "Roedd Carson yn fachgen clên a chariadus. Roedd yn hogyn direidus ac yn frawd mawr arbennig.
"Mae meddwl am deulu arall yn cael yr un profiad yn annioddefol. Rydyn ni'n annog pobl i drafod y canlyniadau ofnadwy gall gyffuriau gael ar fywydau.
"Rhieni, plîs siaradwch gyda'ch plant, neu os ydych chi'n ifanc ac angen cymorth, cofiwch fod yno help ar gael."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2019