Bwriad i ddathlu 10 mlynedd ers agor Hafod Eryri

  • Cyhoeddwyd
cerddwyrFfynhonnell y llun, Peri Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cerddwyr ar gopa'r Wyddfa ddydd Gwener

Mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu'r ffaith bod 10 mlynedd wedi bod ers agor adeilad Hafod Eryri ar gopa'r Wyddfa.

Bydd yr adeilad yn ailagor ar gyfer tymor yr haf ddydd Llun, ac yn ôl gwasanaeth Rheilffordd Eryri mae'r tocynnau trên ar gyfer Llun y Pasg eisoes wedi'u gwerthu.

Mae'r tywydd braf wedi denu torfeydd mawr i fynyddoedd Eryri dros y penwythnos, ac ers dydd Gwener mae'r tymheredd wedi cyrraedd 24°C mewn mannau.

Yn ôl Vince Hughes o Reilffordd Eryri mae hi wastad yn gyffrous agor Hafod Eryri ar gyfer tymor yr haf.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Eryri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hafod Eryri - sy'n cynnwys caffi a siop anrhegion - yn croesawu oddeutu 500,000 o ymwelwyr y flwyddyn

Er bod y tywydd yn gynnes iawn dros y Pasg nid dyna'r record ar gyfer mis Ebrill - yn 2003 roedd y tymheredd yn 26.2°C yn Aberystwyth yn ôl arbenigwyr tywydd.

Cafodd adeilad Hafod Eryri ei agor ym Mehefin 2009 gan gymryd lle'r adeilad oedd wedi bod ar gopa'r Wyddfa ers 1935.

Yn ôl cofnodion roedd yna leoedd amrywiol i gysgodi ar y copa ers 1847.

Dywedodd Mr Hughes: "Mae 10fed pen-blwydd Hafod Eryri yn teimlo hyd yn oed yn fwy arbennig ac ry'n yn cynllunio i gael dathliad arbennig i nodi degawd ers ei fodolaeth."

Ffynhonnell y llun, Mike Spencer
Disgrifiad o’r llun,

Mae trenau wedi bod yn cludo teithwyr i gopa'r Wyddfa ers 1896