Y Gynghrair Genedlaethol: Halifax 2-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n dorcalon i Wrecsam ddydd Llun wrth i'r Dreigiau gael eu trechu gan gôl hwyr i Halifax yn Sir Gorllewin Efrog.

Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl hanner awr, gyda'r ymosodwr Scott Quigley yn sgorio yn erbyn ei gyn-glwb.

Ond roedd yr ymwelwyr yn gyfartal cyn hanner amser, wrth i Chris Holroyd rwydo yn dilyn peniad i'w lwybr gan Jason Oswell.

Roedd 1,200 o gefnogwyr Wrecsam wedi teithio i Halifax ar gyfer y gêm, ond siomedig oedden nhw ar ôl i Devante Rodney sgorio yn yr amser ychwanegol gan ennill y gêm i'r tîm cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Cymry yn disgyn i'r pumed safle yn y Gynghrair Genedlaethol.