Carcharu dyn o Lanelli am 27 mlynedd am droseddau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Peter Anthony LewisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai o'r troseddau yn dyddio 'nôl mor bell â 2001

Mae dyn o Lanelli wedi cael ei garcharu am 27 mlynedd am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant.

Cafwyd Peter Anthony Lewis, 54 oed, yn euog o bedwar cyhuddiad o dreisio un ferch 11 neu 12 oed, yn ogystal â sawl trosedd rhyw arall yn ei herbyn hi a dwy ferch arall.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod rhai o'r troseddau yn dyddio 'nôl mor bell â 2001.

Dywedodd y Barnwr Keith Thomas, bod Lewis yn "droseddwr peryglus", a bydd yn cael ei garcharu am 21 mlynedd gyda chwe blynedd arall ar drwydded.

Bydd Lewis yn cael ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw, ac fe fydd hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhyw.

Roedd Lewis wedi gwrthod yr honiadau yn ei erbyn.