Erlyniadau'r RSPCA ar eu huchaf ers pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Roedd 2018 yn flwyddyn o "greulondeb annirnadwy" i anifeiliaid yn ôl yr RSPCA, gyda nifer yr erlyniadau ar eu huchaf ers pum mlynedd.
Yn ystod y flwyddyn, cafwyd 164 o euogfarnau yn ymwneud ag 80 o ddiffynyddion mewn llysoedd ynadon ledled Cymru.
"Yn 2018, roedd ein harolygiaeth wedi delio â chreulondeb annirnadwy - gyda rhai achosion sydd wir yn ysgytiol, brawychus a gofidus wedi'u dal ar gamera," meddai uwcharolygydd RSPCA Cymru, Martyn Hubbard.
Roedd swyddogion yr elusen wedi gorfod delio â rhai achosion "hollol anghredadwy o greulondeb bwriadol a dychrynllyd, a cham-drin disynnwyr".
Achosion
Roedd yr achosion yn cynnwys:
Dau berson ifanc yn hysio ci i ymosod ar gath, a'i lladd;
Cyfnod o garchar gohiriedig i ddau ddyn ar ôl i gath gael ei thaflu'n uchel i'r awyr fel pêl rygbi;
Dedfryd o garchar a charchar gohiriedig i dri dyn am yrru cŵn i ymosod ar foch daear;
Gwaharddiad oes i fridiwr am gadw cŵn dan amodau "erchyll" a "ffiaidd".
O'i gymharu, cafwyd 148 o euogfarnau yn 2017 a 120 yn 2016; tra bod ffigwr 2018 yn agos at ddwywaith yr un yn 2015, pan sicrhawyd 89 euogfarn.
Ymchwiliodd arolygwyr yr RSPCA yng Nghymru i 10,856 o gwynion am greulondeb yn ystod 2018 - cynnydd o bron i 700 ers 2017.
Mae hynny'n dangos mai'r dewis olaf yw erlyn, yn ôl yr elusen.
Ychwanegodd yr Uwcharolygydd Hubbard: "Mae ein neges yn glir - nid ydym yn goddef creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru."