Ateb y Galw: Yr actor Geraint Rhys Edwards
- Cyhoeddwyd
Yr actor Geraint Rhys Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo gael ei enwebu gan Rhianna Loren yr wythnos diwethaf.
Aeth fideo ohono yn dynwared cystadleuwyr Love Island y llynedd yn 'feiral' a chael ei rannu a'i wylio filoedd o weithiau.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pan o'n i'n dair mlwydd oed 'nath mam golli fi, ac o'dd hi ffili ffeindio fi yn unman yn y tŷ, felly dechreuodd hi dechre panico… dim ond i ffeindio fi yn ca'l brecwast 'da cymdogion pump drws i lawr o nhŷ i. Nes i ddringo dros pump wal tal a choeden enfawr yn dair oed. Jyst galwch fi'n Tarzan.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Athro Gwyddoniaeth lyfli yn yr ysgol.
O archif Ateb y Galw:
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i arfer byw yn Sblot. Un tro nes i wisgo joggers llac i 'neud siopa bwyd yn y siop rownd y gornel. Pan o'n i'n gadel, nes i glywed y sŵn 'ma tu nôl i fi, fel o'dd rhywun yn rhedeg tuag ata i. Dyma fi'n meddwl "dyma ni, I'm gonna be knifed". Nes i dwmlo pinsiad ar dop fy nghoes a fi'n cofio meddwl i'n 'unan "O da iawn - o leia' bo' nhw ddim 'di 'neud dim i ngwyneb".
Ond wedyn nes i edrych ar hen fenyw i'r chwith yn smygu ffag a nath hi weud "don't worry lurve, I've seen smaller". Nes i wedyn sylweddoli bod dau fachgen ifanc wedi 'ceggo' fi. Dim jest tynnu y'n drwsus llac i lawr… ond y boxers hefyd. O'dd popeth mas i bawb ga'l gweld. POPETH.
Nes i edrych o gwmpas i weld grŵp enfawr o adeiladwyr chavvy, fit yn chwerthin mor uchel a 'nathon nhw gyd waeddi "wheeeyyyyy there it is bro for all of Splott Road to see". MOR-TI-FIED.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Nos Lun. O'n i'n gwylio Game of Thrones ac o'n i'n hungover.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Cnoi fy ewinedd.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Caerdydd achos dwi o 'ma yn wreiddiol a ma' 'da fi lot fawr o deulu a ffrindiau 'ma i gadw cwmni i fi.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ges i freuddwyd o'n i'n briod â Luke Evans.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Gwirion, hyderus, hwyl.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Lion King, achos nes i edrych ar y ffilm pob dydd am bedair blynedd pan o'n i'n ifanc - fi'n gw'bod y sgript i gyd. O'n i mor obsessed o'dd rhaid i Mam guddio'r fideo. Hefyd, 'wy wastad yn gwylio Lion King pan 'wy'n dost.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Phoebe Waller-Bridge, achos ma' hi'n GENIUS. Fi'n credu fod Fleabag yn ddarn o waith anhygoel.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Wy'n gallu 'neud impression RILI da o T-rex.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ca'l parti enfawr 'da teulu a ffrindie.
Beth yw dy hoff gân a pham?
Cardi B - I like it, achos dwi'n obsessed gyda hi fel person a hefyd 'wy'n dawnsio'n wyllt pam ma'r gân yn dod 'mlan.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Prawn cocktail, stêc a saws peppercorn, caws.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
BEYONCÉ. Y diwedd.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Mari Beard