Rhyddhau person ifanc wedi tân mynydd Blaenau Ffestiniog

  • Cyhoeddwyd
Tan BlaenauFfynhonnell y llun, @ErwynJ
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i thua 20 o deuluoedd orfod gadael eu cartrefi yn y dref yn ystod oriau mân fore Mawrth

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau person 16 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â thân mynydd ym Mlaenau Ffestiniog ddechrau'r wythnos.

Dywedodd y llu ddydd Mercher eu bod wedi arestio person ifanc ar amheuaeth o losgi bwriadol, achosi niwsans cyhoeddus ac ymosod ar heddwas.

Bydd dyn 49 oed o'r dref, Mark Thomas yn mynd o flaen ynadon yng Nghaernarfon ar 30 Mai ar ôl cael ei gyhuddo o rwystro heddweision mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu'n dal yn apelio am wybodaeth wrth barhau â'r ymchwiliad i achos y tân, wnaeth orfodi degau o bobl i adael eu cartrefi.

Disgrifiad,

Dywedodd un llygad dyst bod y llethrau uwchben y dref yn "edrych fel llosgfynydd"

Bu'n rhaid i thua 20 o deuluoedd orfod gael lloches yn ystod oriau mân fore Mawrth wrth i'r gwasanaethau brys ddelio â'r fflamau.

Yn ôl un llygad dyst roedd y llethrau uwchben y dref yn "edrych fel llosgfynydd", ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw ychydig cyn 20:30 nos Lun, a'r gred ar y pryd oedd bod y tân wedi cynnau yn yr ardal y tu ôl i'r chwarel.

Dywedodd yr Arolygydd Matt Geddes o Heddlu Gogledd Cymru ei fod yn trin y tân fel un "gweithred droseddol a bwriadol".

Ffynhonnell y llun, Chris Wilson