Llofruddiaeth Abertawe: Teyrnged teulu i ddynes fu farw

  • Cyhoeddwyd
Sammy-Lee LodwigFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu yn trin marwolaeth Sammy-Lee Lodwig fel llofruddiaeth

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn digwyddiad yn Abertawe fore Mawrth.

Mae'r heddlu yn trin marwolaeth Sammy-Lee Lodwig, 22, fel llofruddiaeth ac mae'r ymchwiliad i'r digwyddiad yn parhau.

Cafodd dyn 49 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth brynhawn Mawrth ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Fe wnaeth chwaer Ms Lodwig, Miakala, gyhoeddi teyrnged ar ran y teulu gan ddweud: "Roeddwn i'n caru fy chwaer yn fwy na bywyd. Cafodd ei chipio oddi wrthym yn llawer rhy fuan.

"Roedd hi'n caru anifeiliaid, yn enwedig ei chi Rocky. Bydd hi wastad yn fy nghalon.

"Does dim geiriau i fynegi fy nheimladau ar hyn o bryd. Dwi jyst am gael fy chwaer fach yn ôl, fy seren wib."

Apelio am dystion

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Darren George, sy'n arwain yr ymchwiliad i'r llofruddiaeth: "Hoffwn apelio eto i'r gymuned leol allai fod â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda ni neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw.

"Mae dyn 49 oed yn parhau yn y ddalfa wedi iddo gael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Sammy-Lee.

"Rwy'n arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn ardal Carlton Terrace neu Mansel Street yn Abertawe rhwng 20:00 nos Lun a 04:00 fore Mawrth."

Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1900144514.